Sut mae'n teimlo i beidio â deall yr iaith?

Martyn Croydon a'i wraig Eluned Image copyright Martyn Croydon
Image caption Mae Martyn Croydon yn byw ei fywyd drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn hyn ac wedi siarad Cymraeg â'i wraig Eluned o'r cychwyn

Mae hi'n anodd iawn i bobl sy'n siarad un iaith ddeall sut mae'n bosib byw gyda dwy meddai enillydd Dysgwr y Flwyddyn 2013 wrth i ffrae iaith honedig yn RAF Fali esgor ar drafodaeth am siarad Cymraeg yng ngŵydd pobl ddi-Gymraeg.

I Martyn Croydon o Kidderminster roedd hi'n bwysig iawn ei fod yn dysgu'r iaith leol pan benderfynodd symud i fyw i Benrhyn Llŷn pan oedd yn 20 oed, ond mae'n cofio sut roedd yn teimlo i beidio deall yr iaith.

"Mae yn medru teimlo ychydig bach yn fygythiol," meddai.

"Mae'n rhyfedd clywed pobl yn siarad iaith ti ddim yn ddeall yn enwedig i rywun o Kidderminster, lle does yna ddim gymaint o bobl sy'n siarad ieithoedd eraill.

"Pan ti wedi arfer deall pawb a wedyn ti'n clywed pobl yn siarad a ti ddim yn eu deall mae'n gallu teimlo ychydig bach yn rhyfedd ond dyna un rheswm pam ddylse pobl ddysgu'r iaith!

"Os ti'n teimlo dy fod ti dan anfantais, ti'n medru dysgu. Mae pawb yn medru dysgu iaith.

"Do'n i ddim yn meddwl y buaswn i'n rhugl erbyn y diwedd - ond dwi wedi sylweddoli ei bod hi'n bosib - mae angen dweud wrth bobl ei bod hi'n bosib - os ydych chi'n teimlo dan anfantais, does dim rheswm i beidio dysgu - dyna'r neges bwysicaf."

Dim ond eisiau gallu siarad digon i ddeall sgyrsiau a chyfathrebu mewn siopau roedd Martyn; wnaeth o ddim breuddwydio y byddai'n dod yn diwtor Cymraeg ac yn byw ei fywyd bron yn gyfan-gwbl drwy gyfrwng yr iaith.

Doedd ganddo ddim dealltwriaeth ei bod yn bosib byw mewn mwy nag un iaith.

"Cyn dysgu, ro'n i'n meddwl bod pobl oedd yn ddwyieithog yn anhygoel, do'n i ddim yn deall sut roedd person yn gallu dysgu dwy iaith a siarad dwy iaith," meddai

"Ro'n i'n lwcus mewn ffordd mod i'n eitha' ifanc yn dysgu.

"Ond dwi'n gweld pobl rŵan sy'n 60 oed pan maen nhw'n dechrau dysgu ac maen nhw wedi bod yn siarad un iaith ers 60 o flynyddoedd a dwi yn cydymdeimlo efo nhw.

"Mae hi'n anodd iawn pan rydych chi wedi arfer dweud pethau mewn un ffordd a gwneud yr un synau erioed a rŵan rydych chi'n trio gwneud rhywbeth newydd.

"Ond mae siarad iaith arall yn newid dy ffordd o feddwl. Mae'n agor dy feddwl rhywsut.

"Mae'n bosib dweud pethau yn Gymraeg ti ddim yn medru eu dweud nhw go iawn yn Saesneg, a'r ffordd arall rownd.

"Mae hynny'n gwneud i chi feddwl am bethau yn wahanol. Rydych chi'n gallu gwerthfawrogi gwahanol syniadau a dydi pethau ddim mor bendant a phan rydych chi'n siarad un iaith - mae pethau lot mwy hyblyg a mae 'na fwy o bosibiliadau efo dwy iaith."



Siaradodd Martyn a'i wraig, Eluned, Gymraeg gyda'i gilydd o'r cychwyn felly mae'n teimlo'n chwithig iddyn nhw siarad Saesneg, hyd yn oed pan maen nhw'n ymweld â theulu Martyn yn Lloegr.

Maen nhw ar fin croesawu eu plentyn cyntaf i'w haelwyd Gymraeg yn Llannor ger Pwllheli.

"Mae ein perthynas ni yn Gymraeg, dydi o ddim yn teimlo mor gyfforddus yn Saesneg ond mae'n anodd iawn cyfleu hynny i bobl sydd ddim yn siarad mwy nag un iaith," meddai Martyn.

"Os ydi hi'n naturiol siarad efo rhywun yn Gymraeg, dyne be ydach chi'n neud, os dio ddim yn effeithio ar y bobl sydd yn sgwrs.

"Wrth gwrs i bobl sydd ddim efo'r dewis, dydyn nhw ddim yn deall sut mae'n teimlo i bobl sydd efo'r dewis i siarad mwy nag un iaith.

"Ond os oes gynnoch chi berthynas efo rhywun mewn un iaith, mae'n teimlo'n rhyfedd siarad iaith arall efo'r person yna.

"Ond dydi pobl sydd jyst yn siarad un iaith byth yn mynd i ddeall pethau fel'na - maen nhw'n delio efo rhywbeth sydd gynnon nhw ddim profiad ohono fo, dyna ydi'r broblem.

"Dydyn nhw ddim yn deall bod perthnasau yn bodoli mewn iaith benodol.

"Os ydi'r person sydd ddim yn siarad Cymraeg yn rhan o'r sgwrs, mae hynny ella yn bach o broblem.

"Ond os nad ydi pawb yn y stafell yn deall yr iaith a dydyn nhw ddim yn rhan o'r sgwrs ddylsa hynny ddim bod yn broblem. Mae gan bawb hawl i siarad pa bynnag iaith maen nhw eisiau."

Pynciau Cysylltiedig