Brexit: Cynulliad yn cefnogi cynnig Mesur Dilyniant

Cyhoeddwyd

Mae Aelodau Cynulliad wedi cytuno'n unfrydol i gefnogi cynnig Plaid Cymru i gyflwyno deddf er mwyn amddiffyn pwerau Cymru yn dilyn Brexit.

Dywedodd Steffan Lewis AC ei fod yn "fandad cryf iawn" i Lywodraeth Cymru allu bwrw ati ar unwaith i gyhoeddi 'Mesur Dilyniant' er mwyn gwarchod pwerau fydd yn dychwelyd o'r UE.

Mynegodd bryder ynglŷn â chynlluniau Llywodraeth y DU yn eu Bil Ymadael i gadw pwerau sydd wedi eu datganoli i Gymru yn San Steffan dros dro, pan fyddan nhw'n dychwelyd o Frwsel.

Mae gweinidogion yn San Steffan wedi addo gwneud newidiadau i'w deddfwriaeth arfaethedig nhw.

'Cwestiwn syml'

Erbyn hyn maen nhw'n dweud na fydd y newidiadau hynny'n cael eu gwneud nes y bydd y Bil Ymadael yn cyrraedd Tŷ'r Arglwyddi ddiwedd Ionawr, ar ôl dweud i ddechrau y byddan nhw'n cael eu cyflwyno yn Nhŷ'r Cyffredin.

Ddydd Mawrth fe wnaeth Prif Weinidog Cymru ddisgrifio'r mesur yn ei ffurf bresennol fel "ymosodiad ar ddatganoli" gan fygwth cyflwyno Mesur Dilyniant i amddiffyn buddiannau Cymru os nad oedd y newidiadau'n cael eu gwneud.

Yn y Senedd ddydd Mercher fe wnaeth Mr Lewis, Llefarydd Plaid Cymru ar Brexit, gyflwyno cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi mesur o'r fath yn syth.

Mynnodd AC Dwyrain De Cymru nad oedd yn ceisio gwyrdroi proses Brexit gan ddweud fod pobl oedd o blaid neu yn erbyn gadael yr UE, ac unoliaethwyr neu genedlaetholwyr, yn gallu cefnogi'r cynnig.

"Mae eich cefnogaeth i Fesur Dilyniant yn dibynnu ar sut 'dych chi'n ateb un cwestiwn syml," meddai.

"Ydych chi'n credu fod refferendwm 2016 yn rhoi mandad i Lywodraeth y DU dynnu pwerau oddi wrth y Cynulliad Cenedlaethol yma. Dyw Plaid Cymru ddim yn credu hynny."

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig eu bod o blaid newidiadau i Fil Ymadael Llywodraeth y DU, a bod eu cydweithwyr yn San Steffan eisoes wedi dweud y byddai hynny'n digwydd.

Ychwanegodd arweinydd grŵp UKIP yn y Cynulliad, Neil Hamilton ei fod wedi bod yn erbyn Mesur Dilyniant i ddechrau gan ei fod yn ofni ei fod yn cael ei ddefnyddio i geisio arafu Brexit, ond nad oedd yn credu bellach mai dyna oedd y bwriad.

Amser yn brin

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford fod angen i Lywodraeth Cymru weld "cynigion cadarn" gan Lywodraeth y DU i'r Bil Ymadael fyddai'n "parchu'r setliad datganoli".

Ychwanegodd y byddai "angen Mesur Dilyniant Cymreig pe na bai'r trafodaethau hynny'n llwyddo".

Mewn ymateb dywedodd Mr Lewis nad oedd yn deall pam fod Llywodraeth Cymru yn "gwthio'r mater tan y munud olaf" a bod angen "gweithredu i amddiffyn y ddemocratiaeth 'dyn ni wedi brwydro mor galed i'w hennill".

Os yw Mesur Dilyniant yn mynd i gael unrhyw effaith byddai'n rhaid i'r Cynulliad ei basio cyn i'r Bil Ymadael (yr Undeb Ewropeaidd) gwblhau ei siwrne drwy San Steffan.

Mae gweinidogion Llywodraeth y DU wedi dweud eu bod yn disgwyl "cynnydd sylweddol" yng nghyfrifoldebau'r llywodraethau datganoledig ar ôl Brexit, ond bod proses sydd angen ei dilyn gyntaf.