Cyhoeddi gemau ail ran Uwch Gynghrair Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae trefn y gemau yn ail hanner tymor Uwch Gynghrair Cymru wedi'u cyhoeddi.
Wedi toriad, bydd gemau yn dechrau yn ôl ar nos Iau 1 Chwefror gyda gêm fyw ar Facebook pan fydd y Bala yn teithio i Gei Connah.
Ar yr un penwythnos bydd Derwyddon Cefn yn wynebu'r Seintiau Newydd ar nos Wener a MET Caerdydd yn teithio i Fangor ar y prynhawn Sadwrn yn hanner uchaf y tabl.
Yn yr hanner isaf bydd gemau dydd Sadwrn yn gweld Aberystwyth yn teithio i'r Barri, y ddau dîm ar waelod y tabl, Caerfyrddin a Phrestatyn yn cwrdd â Llandudno yn croesawu'r Drenewydd.
Bydd y tymor yn dod i ben ar 27 Ebrill gyda'r gemau i gyd ymlaen am 19:30.
Bryd hynny fydd Aberystwyth yn chwarae yn erbyn y Drenewydd, Bala v Bangor, Y Barri v Caerfyrddin, Derwyddon Cefn v Cei Connah, Prestatyn v Llandudno a'r Seintiau Newydd v MET Caerdydd.
Wedi hanner cyntaf y tymor mae'r Seintiau Newydd 12 pwynt yn glir ar frig y tabl ar 53 pwynt, gyda Chei Connah'n ail ar 41 a Bangor a'r Bala ar 39 pwynt.