Ymchwiliad pwyllgor o ASau i garchardai yng Nghymru

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Nick Dann/Twitter
Disgrifiad o’r llun,
Fe wnaeth carchar Berwyn agor ei ddrysau am y tro cyntaf yn 2017

Bydd pwyllgor o ASau yn edrych ar y ddarpariaeth iaith Gymraeg i garcharorion wrth iddyn nhw lansio ymchwiliad yn edrych ar garchardai yng Nghymru.

Yn eu hymchwiliad bydd y Pwyllgor Materion Cymreig hefyd yn ystyried y cyfleusterau sydd ar gael i fenywod, troseddwyr ifanc, a throseddwyr risg uchel.

Pum carchar sydd yng Nghymru ar hyn o bryd, gan gynnwys carchar newydd HMP Berwyn ger Wrecsam, ac maen nhw i gyd wedi eu darparu ar gyfer carcharorion gwrywaidd yn unig.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, David Davies AS, y bydden oedd modd "sicrhau bod carcharorion yn treulio cyfnod eu dedfryd mewn amgylchedd sydd yn rhoi'r cyfle gorau iddynt i ddiwygio".

'Cwestiynau difrifol'

Yn ôl y Gwasanaeth Carchardai mae pedwar o'r pum carchar yng Nghymru - HMP Caerdydd, HMP Parc, HMP Abertawe a HMP Brynbuga/Prescoed - yn orlawn, ac o ganlyniad mae llawer o garcharorion o Gymru yn cael eu hanfon i Loegr.

Oherwydd y diffyg darpariaeth, meddai'r pwyllgor, mae carcharorion benywaidd hefyd yn cael eu hanfon i ganolbarth Lloegr, ac mae troseddwyr ifanc o ogledd Cymru yn aml yn treulio cyfnodau dan glo yng ngogledd orllewin Lloegr.

Er bod gan garchar Berwyn gyfleusterau ar gyfer siaradwyr Cymraeg, dywedodd y pwyllgor fod "pryder ynghylch y nifer o garcharorion o ogledd Cymru sydd yn parhau i gael eu carcharu yn Lloegr".

Bydd y pwyllgor hefyd yn edrych ar y potensial ar gyfer adeiladu carchardai newydd yng Nghymru.

Disgrifiad o’r llun,
David Davies yw cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig

"Mae cyfleusterau newydd wedi cael eu hadeiladu yng Nghymru a cheir cynlluniau ar gyfer mwy yn y dyfodol," meddai Mr Davies.

"Ond mae cwestiynau difrifol yn parhau ynghylch y gwasanaeth mae'r system garchar yng Nghymru yn darparu i'r bobl sy'n cael eu hanfon yno i gael eu hadsefydlu.

"Mae tystiolaeth yn cynnig y ceir y canlyniadau gorau pan fod carcharorion yn cael eu lleoli yn fwy agos at eu cymunedau, ond, yn aml, mae troseddwyr Cymraeg yn cael eu danfon i garchardai yn Lloegr.

"Bydd yr ymchwiliad yn edrych ar ansawdd darpariaeth carchardai ar gyfer gwahanol grwpiau, gan gynnwys menywod, troseddwyr ifanc a siaradwyr Cymraeg.

"Bydd hefyd yn gofyn faint yn fwy gall Y Weinyddiaeth Gyfiawnder wneud i sicrhau bod carcharorion yn treulio cyfnod eu dedfryd mewn amgylchedd sydd yn rhoi'r cyfle gorau iddynt i ddiwygio."