Disgwyl mai Giggs fydd rheolwr tîm pêl-droed Cymru
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Mae disgwyl cyhoeddiad brynhawn Llun mai Ryan Giggs fydd rheolwr newydd tîm pêl-droed Cymru.
Bydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cynnal cynhadledd i'r wasg yng Nghaerdydd yn ystod prynhawn Llun ac mae disgwyl iddynt ddweud mai Ryan Giggs - cyn-asgellwr Manchester United a Chymru - fydd y rheolwr newydd.
Daw ei benodiad wedi i Chris Coleman, y cyn-reolwr, ymddiswyddo ym mis Tachwedd. Mae ef bellach yn rheoli Sunderland.
Cafodd tri arall eu cyfweld ar gyfer y swydd o reoli tîm Cymru sef Craig Bellamy, Osian Roberts a Mark Bowen.
Mae disgwyl i CBDC, sy'n cael ei arwain gan y prif weithredwr Jonathan Ford, selio manylion terfynol y cytundeb fore Llun.