Hen Galan Hapus!

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Plant yn hel calennig yng Nghwm Gwaun 1961

Mae Nos Galan wedi bod ond mae na bobl yn dymuno blwyddyn newydd dda i'w gilydd. Be sy'n mynd ymlaen?

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanolGweld mwy ar Twitter
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanolGweld mwy ar Twitter

Wel, y Calan 'newydd' yw Ionawr 1. Roedd yr Hen Galan yn cael ei ddathlu ar Ionawr 13.

Pan newidiwyd yr hen galendr Iwlaidd i'r calendr Gregori newydd yn 1752, fe symudodd dydd Calan.

Ond roedd y calendr newydd yn amhoblogaidd felly cadwodd rhai ardaloedd at draddodiad yr hen galendr a dathlu'r flwyddyn newydd ar Ionawr 13.

Roedd Cwm Gwaun yn Sir Benfro yn un o'r ardaloedd hyn. Mae llun enwog gan Geoff Charles o rai o blant yr ardal yn canu Calennig adeg Hen Galan 1961.

Mewn sgwrs gyda Cymru Fyw dywedodd Rita Davies, un o'r plant yn y llun "...o'n i'n arfer mynd i ganu calennig pob Hen Galan. O'n i'n dechre' am saith y bore ac yn mynd 'mlaen tan rhyw bump y prynhawn ac yn joio mas draw.

"Ifor a Gwyn Davies, Eirian a Sally Vaughan, Menna James ac Ionwy Thomas yw'r plant eraill. Ry'n ni wedi cael ein tynnu fel grŵp ond nid mewn grŵp o'n i'n mynd i ganu ond fel unigolion."

Roedd cadw'r Hen Galan yn arferiad yn Llandysul, Ceredigion hefyd.

Roedd dydd Calan yn ddiwrnod pwysig iawn yng nghalendr y Cymry ers talwm gyda phlant yn mynd o gwmpas tai'r ardal yn canu neu adrodd rhigwm er mwyn hel calennig, sef arian neu rodd.

Mae'r newid yn y calendr hefyd yn egluro pam fod cyfarfodydd canu plygain yn dal i gael eu cynnal mewn rhai rhannau o Gymru yn y flwyddyn newydd gan eu bod yn draddodiadol yn digwydd yn y cyfnod rhwng y Nadolig a'r hen Galan, Ionawr 13.

Elfen arall o ddathlu'r Hen Galan oedd y Fari Lwyd, sef penglog ceffyl wedi'i orchuddio â defnydd a rhubanau.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanolGweld mwy ar Twitter

Roedd y penglog yn cael ei roi ar bolyn ac roedd person wedi ei orchuddio efo llian yn agor a chau'r geg

Byddai'r Fari Lwyd yn cael ei thywys o gwmpas tai'r ardal a'r dafarn leol a phenillion hwyliog yn cael eu canu'n gofyn am wahoddiad i ddod i mewn. Byddai perchennog y tŷ yn ateb her y penillion cyn penderfynu rhoi mynediad ai peidio. Roedd yn anlwcus gwrthod mynediad i'r Fari Lwyd.

Yn y tŷ wedyn byddai'r grŵp yn diddanu'r teulu ac yn derbyn bwyd a diod yn gyfnewid am eu gadael i mewn.

Doedd pawb ddim yn croesawu'r cwmni swnllyd a dirywiodd yr arferiad erbyn diwedd y 19eg ganrif er ei bod yn dal i gael ei hatgyfodi mewn ambell ardal hyd heddiw.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanolGweld mwy ar Twitter

Mae'n debyg bod gwreiddiau'r Fari, sy'n gyffredin i wledydd eraill hefyd, mewn arferion hynafol o'r cyfnod cyn-Gristnogol ac, yn ôl rhai, yn adlewyrchiad o ba mor werthfawr roedd ceffylau i bobl. Mae'n bosib fod cysylltiad gyda chwedlau Celtaidd hefyd fel stori Rhiannon yn y Mabinogi.

Mae pentref Llangynwyd yng Nghwm Llynfi yn cael ei gysylltu'n arbennig â'r Fari Lwyd.