Gwahardd athro yrrodd lun a neges anweddus at ddisgybl
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-bennaeth cerdd mewn ysgol yng Nghaerdydd wedi ei wahardd rhag dysgu ar ôl i banel ei gael yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol.
Clywodd y gwrandawiad yng Nghaerdydd fod Dale Evans, 33 oed, wedi anfon lluniau anweddus o'i hun at ddisgybl 15 oed.
Yn ogystal â hyn roedd Evans, a oedd yn athro cerdd yn Ysgol Uwchradd Caerdydd, wedi bod yn anfon negeseuon o natur rywiol at y disgybl.
Dywedodd Prifathro Ysgol Uwchradd Caerdydd, Stephen Jones fod Evans wedi cyfaddef ei fod wedi "gwneud rhywbeth gwirion" ar ôl iddo dderbyn cwyn gan y gwasanaethau cymdeithasol.
Roedd Evans wedi honni iddo ddioddef "homoffobia" gan rai o ddisgyblion yr ysgol.
Ond dywedodd cadeirydd y panel, Helen Robbins: "Rydym wedi penderfynu gwahardd Evans er mwyn gwarchod y disgyblion. Mae'n golygu y bydd ei enw'n cael ei dynnu o'r gofrestr dysgu.
"Fe all ail-ymgeisio fel athro, ond ddim am o leiaf tair blynedd. Yn y cyfamser fe fydd Evans wedi ei wahardd rhag dysgu yn gyfan gwbl."