The Moody Blues a chadair T Llew Jones

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, RylandTeifi

Yn gynharach mis yma bu farw'r cerddor Ray Thomas, aelod o'r grŵp adnabyddus The Moody Blues. Ond mae cysylltiad rhyngddo ef ag un o gadeiriau un o'n llenorion amlycaf.

Ei gefnder, yr actor a'r cerddor Ryland Teifi sy'n dweud yr hanes wrth Cymru Fyw:

Roedd brawd fy mamgu, Morlais (tad Ray Thomas) wedi symud i Birmingham i weithio flynyddoedd yn ôl gan briodi yno. Felly cafodd Ray ei fagu yn Lloegr, ond o'dd e yn falch o'i wreiddie Cymreig.

Roedd ganddyn nhw dŷ lawr yn Dinas yn Sir Benfro, a phan gwrddes i â fe o'n i wastad yn cael y teimlad bod e bron yn hiraethu am Gymru. Tu allan i'w dŷ e yn Llundain roedd 'na ddreigiau coch ar y pileri wrth y gât.

Fy hen dadcu i (taid Ray) oedd Tom Thomas. Ro'dd e'n byw yn Boncath yng ngogledd Sir Benfro cyn symud i Llandyfriog yng Ngheredigion. Roedd e'n grefftwr eitha' adnabyddus yn y gorllewin ac yn wneuthurwr cadeiriau Eisteddfod. Roedd e'n eu gweithio yn yr hen ffordd gan wneud popeth gyda llaw.

Roedd e'n gwneud cadeiriau i steddfodau mawr, fel pan o'dd Steddfod fawr Aberteifi yn ail i'r Genedlaethol bron ar y pryd. Fel ma'n digwydd 'nath y diweddar Dic Jones sôn rai blynyddoedd yn ôl mai un o'i hoff gadeirie odd un o rai Tom Thomas, Boncath.

Ond cafodd un arall o gadeiriau Tom Thomas ei hennill gan T Llew Jones. Roedd Ray yn edmygu crefftwaith y gader hon yn fawr ac fe ofynnodd i T Llew os oedd e'n fodlon ei gwerthu iddo. D'wedodd T Llew nad oedd e eisiau arian, ac ei fod yn hapus i'r gader fynd i gartref da.

Stori arall am ei gariad tuag at bethau Cymreig oedd yr adeg pan brynodd gwrwgl yn Surrey, a oedd digwydd bod wedi ei chreu gan un o'n cyndeidiau ni o Genarth.

Ffynhonnell y llun, Keystone
Disgrifiad o’r llun,
The Moody Blues, gyda Ray Thomas yn y cefn ar y dde

Cafodd Ray ei ffliwt gyntaf gan Tom Thomas, un bren dwi'n credu. Wrth gwrs daeth y ffliwt yn rhan allweddol o gerddoriaeth The Moody Blues ac mae rhywun yn meddwl am yr offeryn yn eu cân enwog Nights in White Satin - mae hwnnw yn mynd nôl i fy hen dadcu mewn ffordd.

Nes i gyfarfod Ray amser o'n i'n grwt ac yn cofio mynd i weld The Moody Blues yng Nghaerdydd pan o'n i'n coleg, gan gwrdd ag e ar ôl y gig. Ond ddos i ddim i'w 'nabod e'n iawn tan iddo fe gysylltu 'da fi wedi iddo fe weld stori yn y papur amdana' i.

Ro'n i mewn siop yn Dungarvan yn Iwerddon, ble rwy'n byw bellach, a ges i alwad ffôn gan Ray odd eisiau trafod fy albwm diweddara', Last of the Old Men. Fe wnaeth e fy nghwahodd i'w barti pen-blwydd yn 70, gan ofyn i mi ganu yno gyda Hugh O'Carroll ac Evan Grace odd yn y band Mendocinio 'da fi.

Roedd lot o bobl yn y parti ond roedd Ray wedi eistedd 'da fi am orie yn porthi am straeon y teulu, ac rodd e'n gwybod mwy am fy nheulu ar ochr mam nag o'n i.

Daethon ni'n agos iawn dros y chwe blynedd diwethaf ac fe 'naethon ni gyd-sgwennu cân am fy hen dadcu, 'Dada' fel oedden ni'n ei alw e.

Wnaethon ni recordio hi yn Llundain gyda'r cynhyrchydd Gregg Walsh, sydd wedi gweithio gyda Tina Turner, Pink Floyd ac eraill. Dyw'r gân heb ei rhyddau eto, ond rwy'n gobeithio y bydd hi ar gael yn fuan. Roedden ni am recordio mwy o ganeuon 'da'n gilydd, ond yn anffodus bydd hynny ddim yn bosib nawr wrth gwrs.

Ffynhonnell y llun, Richard E. Aaron
Disgrifiad o’r llun,
Ray gyda'i ffliwt yn perfformio gyda'r Moody Blues yn 1978

Roedd The Moody Blues ar eu hanterth pan fu farw Tom Thomas. Daeth Ray draw o Lundain i'r angladd a dwi'n credu mai mewn Rolls Royce y daeth e. Daeth cynhyrchydd pwysig o America 'da fe i'r angladd, ac wrth gwrs roedd y capel yn orlawn gyda'r canu yn anhygoel.

Gofynnodd y cynhyrchydd i Ray yn y capel "My God, who hired the choir?" ac fe drodd Ray ato gyda deigryn yn ei lygad "That's no choir, this is Wales".