Galw am ystyried iaith ysgolion pan yn codi stadau tai

  • Cyhoeddwyd
Disgyblion ysgol newyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae grŵp pwyso yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi "cyfarwyddyd clir" am sut mae penderfynu cyfrwng ieithyddol ysgolion sy'n cael eu codi yn sgil datblygiadau tai newydd.

Yn ôl Rhieni Dros Addysg Gymraeg (RhAG), mae angen canllawiau er mwyn "sicrhau bod datblygu trefol yn rhoi cyfle i gynyddu addysg Gymraeg".

Dywedodd y llywodraeth fod atodiadau i'w polisi cynllunio "yn rhoi eglurder... ar sut y gall y system gynllunio gefnogi a diogelu'r iaith" ac mai cynghorau sir sydd "yn y sefyllfa orau" i benderfynu.

Ond mae RhAG yn dadlau nad oes "cyfeiriad digonol" at gynlluniau datblygu tai yn y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg sy'n cael eu llunio gan y cynghorau.

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru benderfynu a fyddan nhw'n derbyn neu'n gwrthod y strategaethau addysg yn yr wythnosau nesaf.

Gofynnodd Cymru Fyw i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd am sylw.

Disgrifiad o’r llun,
Pryder Lynne Davies o RhAG ydy bod dim digon o gyfeirio at dai mewn strategaethau am addysg Gymraeg

Yn ôl RhAG, mae angen i Lywodraeth Cymru "lunio canllawiau ar gyfer prosesau a fydd yn pennu natur ieithyddol ysgolion newydd sy'n rhan o gynlluniau tai newydd".

Os nad oes ysgolion newydd yn cael eu codi gyda'r datblygiad, yna "mae angen canllawiau sy'n caniatáu i rieni sy'n ymgartrefu yn yr ardal ddewis addysg Gymraeg yn hwylus", meddai'r ymgyrchwyr.

Awdurdodau cynllunio lleol - cynghorau sir neu awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol - sy'n gyfrifol am y Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLl).

Maen nhw'n cael eu llunio ar sail Polisi Cynllunio Cymru, sy'n cael ei gyhoeddi gan y llywodraeth.

Mae RhAG yn dadlau bod "rhagdybiaeth hanesyddol mai ysgolion cyfrwng Saesneg fydd unrhyw ysgol newydd" ond bod "cyfle" i gael mwy o ysgolion Cymraeg gyda datblygiadau newydd - gydag esiamplau fel ysgolion Penalltau a Llantrisant yn "gynsail ar gyfer ystyried yn helaethach ar lefel genedlaethol."

Anfon cynlluniau addysg yn ôl

Yn yr wythnosau nesaf, bydd Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi a fyddan nhw'n gwrthod neu'n cymeradwyo'r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg sydd wedi cael eu cyflwyno iddyn nhw gan y cynghorau sir.

Ar raglen Dan yr Wyneb ar Radio Cymru yr wythnos hon, dywedodd y gweinidog sy'n gyfrifol am yr iaith ei bod wedi "anfon cynlluniau yn ôl" at bob un o'r cynghorau er mwyn iddyn nhw gael eu gwella.

Dywedodd Eluned Morgan AC bod rhai o'r cynlluniau yn dangos "diffyg uchelgais" a bod rhai awdurdodau lleol "ddim yn deall bod [y llywodraeth] yn ddifrifol" am y nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Ychwanegodd bod gan y llywodraeth "lot o arfau" i orfodi cynghorau i'w "helpu" i gyrraedd y nod hwnnw, gan gynnwys bygwth peidio cyfrannu arian at godi ysgolion newydd yn y siroedd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Mae angen i ddatblygiadau tai fod yn gyfle i "gynyddu addysg Gymraeg", yn ôl ymgyrchwyr

Yn ôl Lynne Davies o RhAG, dydy'r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ddim yn cyfeirio'n ddigonol at y Cynlluniau Datblygu Lleol, sy'n gyfrifol am ddatblygiadau tai mawr.

"Dylai bod y Cynlluniau hyn yn cynnwys datganiad polisi parthed datblygiadau tai newydd, er mwyn sicrhau bod canran deg o'r ysgolion ddaw yn sgil adeiladu ystadau tai newydd yn rhai Cymraeg," meddai.

'Adlewyrchu uchelgais'

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Awdurdodau Lleol [sydd] yn y sefyllfa orau i gasglu ac asesu tystiolaeth, i ddatblygu polisïau ac i wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar eu hardaloedd lleol."

Dywedodd fod nodiadau TAN 20, sy'n atodiad i Bolisi Cynllunio Cymru, "yn rhoi eglurder i awdurdodau cynllunio lleol, datblygwyr a chymunedau ar sut y gall y system gynllunio gefnogi a diogelu'r iaith" ac mai'r "ffordd orau o wneud hyn yw trwy gynnwys ystyriaethau iaith, mewn Cynlluniau Datblygu Lleol".

Ychwanegodd: "Mae ein cynllun Cymraeg mewn Addysg, a gyhoeddwyd fis diwethaf, yn gosod targedau i gynyddu'r nifer o blant a addysgir trwy gyfrwng y Gymraeg i 40% erbyn 2050. Disgwylir i Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg i adlewyrchu'r uchelgais hwn yn ogystal ag anghenion lleol."