Poen ditectif wrth ddal lleidr disel o Ddeiniolen
- Cyhoeddwyd
Clywodd llys fod gweithiwr casglu sbwriel o Wynedd oedd yn dwyn tanwydd wedi gyrru dros dditectif preifat oedd yn cadw llygad arno.
Fe wnaeth Ian Ellis, 52 oed o Ddeiniolen, bledio'n euog i ddwyn disel o gyngor Gwynedd ac o yrru'n ddiofal fis Awst y llynedd.
Yn ystod y gwrandawiad fe wnaeth Ynadon Caernarfon weld fideo o gerbyd glanhau yn taro yn erbyn y ditectif, ac ef yn gweiddi "Ow, mae'r targed newydd yrru drosaf a fy nocio i'r llawr."
Dywedodd Diane Williams ar ran yr erlyniad fod y ditectif preifat Michael Naughton wedi bod yn dilyn Ellis oherwydd amheuaeth ei fod wedi bod yn dwyn disel o gerbyd y cyngor.
Yn ôl Mrs Williams roedd Ellis mae'n debyg wedi sylwi ar Mr Naughton yn ei wylio, a bod y ditectif wedi dweud ei fod yn cysylltu â'r heddu.
Gyrru'n ddiofal
Yna meddai, fe wnaeth Ellis yrru ei gerbyd i gyfeiriad Mr Naughton.
Cafodd Ellis ei arestio yn ddiweddarach.
Penderfynodd ynadon ei orchymyn i wneud 120 awr o waith di-dâl am y cyhuddiad o ddwyn, gyda chostau o £192.
Cafodd ddirwy o £300, gydag wyth pwynt yn cael ei osod ar ei drwydded yrru am y cyhuddiad o yrru'n ddiofal.
Dywedodd Sion Hughes ar ran yr amddiffyniad fod ei gleiant wedi gweithredu mewn cyfnod o banig, a'i fod yn credu na fyddai unrhyw ran o'r cerbyd wedi taro Mr Naughton.
Ychwanegodd fod gan Ellis, oedd wedi colli ei swydd ar ôl 17 mlynedd o wasanaeth, broblemau ariannol ac weithiau nad oedd ganddo ddigon o arian i dalu am gludo ei wraig, sy'n dioddef o diwmor ar yr ymennydd, i'r ysbyty.