Dros 6,000 yn cefnogi deiseb sgowtiaid Sir y Fflint
- Cyhoeddwyd
Mae mwy na 6,500 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw ar Gyngor Sir y Fflint i wyrdroi penderfyniad i godi treth fusnes o £570 ar 16 o grwpiau sgowtiaid.
Ym mis Ebrill, fe newidiodd y cyngor ei bolisi ar drethu grwpiau chwaraeon ac elusennau, er mwyn ceisio mynd i'r afael â diffyg yn eu cyllideb eu hunain.
Mae'r Prif Sgowt, yr anturiaethwr Bear Grylls, wedi addo cefnogi ymgyrch sgowtiaid Sir y Fflint.
Dywedodd yr awdurdod fod cronfa ar gael i grwpiau sy'n gymwys ac yn ei chael hi'n anodd talu.
Bydd y ddeiseb yn cael ei chyflwyno i'r cyngor cyn eu cyfarfod llawn nesaf yn ddiweddarach yn y mis.
Bellach mae sgowtiaid y sir yn talu 20% tuag at eu trethi busnes - swm sy'n amrywio rhwng £150 i £570.
Please help these great Scouts & sign this petition. I know councils are under pressure but it’s not right that scout groups should be targeted by removing the 20% discretionary funding relief. People give time to support the development of young people & should be supported. https://t.co/GjdXKhrIrt
— Bear Grylls (@BearGrylls) January 3, 2018
Ar wefan Twitter, dywedodd Mr Grylls: "Rwy'n gwybod fod cynghorau dan bwysau, ond dyw e ddim yn iawn i dargedu grwpiau o sgowtiaid drwy ddileu'r 20% o'r dreth oedd yn cael ei hepgor."
Dywedodd comisiynydd rhanbarthol y sgowtiaid yn Sir y Fflint, Richard Hebden y dylai'r awdurdod fod yn cefnogi grwpiau fel hyn, nid eu cosbi.
Ychwanegodd y gallai hyn olygu gorfod codi tâl aelodaeth i'r sgowtiaid neu ddarparu llai o weithgareddau i'r 900 o aelodau.
Dywedodd prif swyddog Cyngor Sir y Fflint, Clare Budden: "Yn gynnar yn 2017, fe gysylltodd y cyngor gyda sefydliadau yr oedd disgwyl iddyn nhw gyfrannu 20% tuag at y dreth o Ebrill 2017, gan hysbysu elusennau a grwpiau gwirfoddol am gronfa caledi treth os oes gan y mudiadau drafferth gwirioneddol i dalu'r 20% ychwanegol."
Straeon perthnasol
- 23 Ebrill 2016