Cyhoeddi enw dyn fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Fynwy
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi enw dyn a fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Fynwy ddydd Mercher.
Bu farw Ashley Thomas, 19 oed o Frynbuga, wedi i'r car Ford Fiesta roedd e'n ei yrru fynd i drafferthion ar Ffordd Llanfihangel Troddi (Mitchel Troy) ger Trefynwy.
Cafodd merch 15 oed oedd yn teithio yn y car ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd gyda mân anafiadau.
Roedd yr heddlu'n apelio am wybodaeth ynglŷn â'r gwrthdrawiad ac yn annog pobl gyda gwybodaeth i ffonio 101 a dyfynnu'r cyfeirnod 264 27/12/2017.
Straeon perthnasol
- 28 Rhagfyr 2017