Plentyn wedi marw mewn gwrthdrawiad ger Tonysguboriau
- Cyhoeddwyd
Mae plentyn wyth oed wedi marw ar ôl i'r car oedd yn teithio ynddo daro coeden yn Rhondda Cynon Taf.
Cafodd nifer o bobl eraill hefyd eu hanafu ar ffordd goediog ger Tonysguboriau ddydd Iau.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad yng nghoedwig Smilog pan darodd y car Seat Altea goeden.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru: "O ganlyniad i'r gwrthdrawiad bu farw bachgen wyth oed oedd yn teithio yn y car."
Mae'r heddlu yn awyddus i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y gwrthdrawiad i gysylltu gyda nhw.