Cyhuddo dyn o dreisio merch yng Nghaernarfon
- Cyhoeddwyd
Cafodd Andrew Maylor ei gadw'n y ddalfa ar ôl bod o flaen ynadon yn Llandudno
Mae dyn wedi bod o flaen llys wedi ei gyhuddo o dreisio dynes yng Nghaernarfon noswyl Nadolig.
Mae Andrew Maylor o Ddolgellau yn cael ei gyhuddo o ymosod ar ferch 20 oed yng nghanol y dref.
Fe aeth o flaen ynadon Llandudno ddydd Mawrth a siaradodd i gadarnhau ei enw a'i gyfieriad yn unig.
Bu cais iddo gael ei ryddhau ar fechniaeth yn aflwyddiannus.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo fynd o flaen Llys y Goron Caernarfon ar 29 Ionawr.