Middlesbrough'n penodi'r Cymro Tony Pulis yn rheolwr
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Mae'r Cymro Tony Pulis wedi ei benodi'n rheolwr ar dîm pêl-droed Middlesbrough yn y Bencampwriaeth.
Fe gafodd Pulis o Bilgwenlli ger Casnewydd ei ddiswyddo fel rheolwr West Bromwich Albion yn Uwch Gynghrair Lloegr ym Mis Tachwedd, ac roedd yn un o'r enwau oedd yn cael ei gysylltu â swydd rheolwr Cymru, wedi i Chris Coleman gyhoeddi ei ymddiswyddiad.
Roedd hefyd wedi ei gysylltu â swydd rheolwr Abertawe, wedi i Paul Clement gael ei ddiswyddo.
Bydd yn olynu cyn reolwr Abertawe, Gary Monk, ym Middlesbrough, ac wrth baratoi i ymgymryd â'r swydd, dywedodd ei fod yn chwilio am "her go iawn".
Straeon perthnasol
- 20 Tachwedd 2017
- 21 Rhagfyr 2017