Teulu o bump yn dianc o dân yn y Barri ddydd Nadolig
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Google
Llwyddodd teulu o bump i ddianc o dân mewn tŷ ym Mro Morgannwg ddydd Nadolig.
Cafodd 40 o ymladdwyr eu hanfon i Gwrt Merganser yn y Barri tua 17:00 wedi i ail lawr a tho tŷ teras fynd ar dân.
Dyw achos y fflamau ddim eto'n glir, ond cafodd dau oedolyn a thri phlentyn driniaeth i effaith anadlu mwg.
Dywedodd Vaughan Jenkins o Wasanaeth Tân ac Achub y De fod larymau tân wedi eu gosod yn y cartref.