Rhybudd am y frech goch cyn teithio i Ewrop

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae pobl sy'n bwriadu teithio i Ewrop dros yr Ŵyl wedi cael rhybudd i gael eu brechu oherwydd nifer uchel o achosion o'r frech goch.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) bod llawer iawn o achosion yn Romania, Yr Eidal, Yr Almaen a Groeg.

Yn ôl ICC, mae risg i bobl sydd heb gael brechiad os byddan nhw'n ymweld â gwledydd sydd ag achosion o'r haint.

Mae Romania wedi gweld mwy na 7,500 o achosion yn 2017. Fe welwyd yr haint mewn 4,750 o bobl yn Yr Eidal ac ychydig llai na 900 yn Yr Almaen.

Ym mis Medi, dywedodd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) bod y DU wedi dileu'r frech goch am y tro cyntaf.

Yn ôl canllawiau'r WHO, mae gwlad yn cael ei dynodi'n un sydd wedi dileu'r haint os nad yw'r haint wedi lledu'r rhydd am fwy na thair blynedd.