Ap BBC Cymru Fyw

Image caption Mae ap BBC Cymru Fyw yn gweithio ar dabledi a ffonau

Mae nawr yn bosib cael negeseuon gan Cymru Fyw a derbyn y newyddion a'r straeon diweddaraf o Gymru yn syth i'ch dyfais.

Er mwyn derbyn y negeseuon, yn gyntaf mi fydd angen i chi ddilyn un o'r dolenni isod er mwyn lawrlwytho neu ddiweddaru'r ap i'r fersiwn newydd:

Cliciwch yma ar gyfer dyfais Apple (iPad neu iPhone)

Cliciwch yma ar gyfer dyfais Android (tabled neu ffôn)

Yna, byddwch yn gallu rhoi caniatád i ap BBC Cymru Fyw anfon hysbysiadau i'ch dyfais ynglŷn â straeon newydd. Gallwch chi newid eich meddwl unrhywbryd yng ngosodiadau'r ap.

Mae'r ap yn addas ar gyfer ffonau a thabledi Apple ac Android ac mae'n rhad ac am ddim. Dyma'r lle delfrydol i gael y newyddion a'r diweddaraf o Gymru, mewn un lle, yn Gymraeg.

Dyma'r adrannau sydd i'w gweld ar yr ap:

  • Prif Straeon - y prif straeon newyddion
  • Cylchgrawn - erthyglau nodwedd, darnau barn, blogiau, orielau lluniau a llawer mwy
  • Gwleidyddiaeth - hynt a helynt y byd gwleidyddol yng Nghymru
  • Ardaloedd - y newyddion lleol o ranbarthau Cymru
  • Radio - cyfle i wrando ar eich hoff raglenni ar BBC Radio Cymru
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
BBC Cymru Fyw

Mae popeth ar flaenau eich bysedd (ac yn eich poced) gydag ap BBC Cymru Fyw.