Cwpan Pencampwyr Ewrop: Gweilch 32-15 Northampton

Illtud Dafydd
Chwaraeon BBC Cymru

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Getty Images

Fe hawliodd y Gweilch eu hail fuddugoliaeth a phwynt bonws o fewn chwe diwrnod wrth drechu Northampton 32-15 yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop.

Prop rhyngwladol Moldofa Dmitri Arhip sgoriodd gais cyntaf y gêm wedi dwy funud, cyn i Sam Davies drosi dwy gôl gosb cyn yr egwyl.

Fe ddaeth mewnwr Cymru Rhys Webb oddi ar y fainc yn ystod yr hanner i chwarae ei gêm gyntaf wedi'r golled i Seland Newydd yn ystod cyfres yr Hydref.

Yr ymwelwyr gafodd pwyntiau cynta'r ail hanner drwy gais Harry Mallinder wedi cic ar draws y cae gan faswr Lloegr Piers Francis.

Wedi 55 munud fe groesodd Webb am ei gais cyntaf cyn i Justin Tipuric sgorio trydedd i't tîm cartref ar Stadiwm Liberty.

Sicrhawyd y pwynt bonws i'r rhanbarth o Gymru gyda 10 munud i fynd drwy ail gais Webb.

Ym mis Ionawr bydd y Gweilch yn croesawu Saracens cyn teithio i Clermont wrth geisio hawlio lle yn rownd wyth olaf Cwpan y Pencampwyr.