Lluniau'r flwyddyn
- Cyhoeddwyd
Mae blwyddyn arall bron ar ben ond bydd yr atgofion efo ni am byth. Dyma i chi rai o uchafbwyntiau 2017 mewn lluniau trwy lens ffotograffwyr Cymru Fyw...
Ym mis Chwefror roedd Doris yn rhuo trwy Gymru a chreu cryn dipyn o lanast...
Cadi Gwyn Edwards enillodd Cân i Gymru eleni gyda'i chân Rhydd. Ewch i weld rhagor o luniau'r gystadleuaeth flynyddol...
Cystadleuaeth Côr Cymru yn Aberystwyth gafodd y sylw ym mis Ebrill. Côr Merched Sir Gâr ddaeth yn fuddugol eleni:
Roedd cei Caernarfon dan ei sang ym mis Mai ar gyfer yr ŵyl fwyd flynyddol. Mae'r fwydlen luniau i'w gweld yma...
Tro Pen-y-bont ar Ogwr oedd hi i gynnal Eisteddfod yr Urdd. Rhwyfwch eich ffordd at weddill lluniau'r wythnos:
Symudodd Tafwyl eleni i gaeau Llandaf gan nad oedd y gofod yng nghysgod y castell ar gael, ond os rhywbeth roedd hi'n fwy poblogaidd nag erioed...
Maen nhw'n gwybod sut mae joio tua'r gorllewin hefyd. Roedd 'na sawl parti ar draeth Llangrannog yn ystod Gwyl Nôl a Mla'n... felly ml'an â chi at weddill y lluniau...
Er gwaetha'r tywydd mawr a'r trafferthion parcio ddechrau'r wythnos ym Modedern, roedd hi'n Eisteddfod Genedlaethol gofiadwy.
Roedd 'na ŵyl liwgar iawn arall ar gyrion Crughywel ym mis Awst. Mwynhewch y lluniau bytholwyrdd:
Roedd y meysydd parcio ym Mhortmeirion yn tipyn sychach eleni na'r llynedd. Mae Gŵyl Rhif 6 yn mynd o nerth i nerth...
'Fallai y bydd y lluniau yma at eich 'tant'. Tro Llandysul oedd hi eleni i gynnal yr Ŵyl Cerdd Dant...
Roed 'an olygfeydd digon sŵreal ar lwyfan Venue Cymru yn Llandudno ym mis Tachwedd wrth i ffermwyr ifanc o bob cwr o'r wlad arddangos eu doniau...
Pren-derfynodd y ddau gi bach yma ymweld â'r Ffair Aeaf yn Llanelwedd ym mis Rhagfyr.