Y Bencampwriaeth: Caerdydd 1-0 Hull
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Peniad Sol Bamba yn curo golgeidwad Hull, Allan McGregor
Llwydodd Caerdydd i gadw'r pwysau ar Wolverhampton Wanderers ar frig y Bencampwriaeth gyda buddugoliaeth dros Hull.
Er bod record gartre ddiguro clwb y brifddinas yn edrych mewn peryg ar un adeg yn dilyn hanner cyntaf siomedig, yn y diwedd roedd eu perfformiad yn haeddu tri phwynt.
Doedd Caerdydd ddim yn edrych fel ildio gôl unwaith i beniad Sol Bamba eu rhoi ar y blaen.
Dim ond ymdrechion capten Hull Michael Dawson lwyddodd i rwystro Lee Tomlin rhag ychwanegu ail i Gaerdydd.
Mae'r canlyniad yn golygu fod tîm Neil Warnock yn cau'r bwlch ar y brig i bedwar pwynt.