Fideos y flwyddyn 2017
- Cyhoeddwyd
Wrth i 2017 ddirwyn i ben dyma olwg ar rai o'r fideos mwyaf poblogaidd i ymddangos ar wefan Cymru Fyw yn ystod y flwyddyn.
Cymraeg... yn Japan!
Mae dosbarthiadau dysgu Cymraeg ar gynnydd ac mae gan Llywodraeth Cymru weledigaeth o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Yw'r criw yma yn Tokyo yn cyfrif?
Cymraeg... yn Albert Square
Fel rhan o ddathliadau Gŵyl Ddewi aeth camerâu Cymru Fyw i un o ardaloedd enwocaf y DU i weld sut hwyl byddai rhai o gymeriadau EastEnders yn ei gael ar ynganu geiriau Cymraeg.
Nid sêr yr opera sebon oedd yr unig rai i geisio siarad Cymraeg. Cafodd rhai aelodau o gast Casualty a'r gantores Dannii Minogue eu rhoi ar brawf hefyd:
Isho mynd i Sir Fôn wedi'r cwbl...
Ar ôl blynyddoedd o dynnu blew allan o drwynau'r Monwysion efo'r gân Dwi'm isho mynd i Sir Fôn, mi newidiodd Geraint Løvgreen ei diwn cyn y Steddfod ar yr ynys. Mi wnaeth o benderfynu bod Ynys Môn yn le olreit wedi'r cwbl ac addasu geiriau'r gân fel hyn...
Maen nhw'n ôl! Fideo torfol Eden
Roedd 'na wynebau a lleisiau cyfarwydd yn ôl ar lwyfannau Cymru am y tro cyntaf ers rhai blynyddoedd yn ystod 2017. Doedd Eden ddim wedi perfformio gyda'i gilydd ers 15 mlynedd pan wnaethon nhw ymddangos yn Eisteddfod yr Urdd yn Sir y Fflint yn 2016. Y tair - Non, Rachael ac Emma - gafodd y fraint o gloi Prifwyl Ynys Môn. Dyma deyrnged rhai o ddefnyddwyr Cymru Fyw i Eden...
Ymhle bydd hi'n bwrw eira Derek?
Mae'n siŵr bod nifer ohonoch chi yn gyfarwydd gyda chyfarchion Cymraeg y dyn tywydd Derek Brockway wrth iddo ddatgelu'r rhagolygon diweddara' ar raglen newyddion Wales Today. Ond, i ddathlu Diwrnod Shwmae Su'mae eleni cafodd Derek ei wahodd gan Cymru Fyw i gyflwyno bwletin tywydd yn gyfangwbl yn y Gymraeg. Chwarae teg iddo, mi gytunodd...
Cymru stormus...
Mae'r stormydd garw wedi cadw Derek yn brysur yn ystod y flwyddyn. Doris y gwynt ddaeth gyntaf a chreu trafferthion niferus, yn enwedig yng Ngheredigion. Ac yn eu tro daeth Brian ac Ophelia i achosi ragor o lanast... Felly, mae fideos o'r tonnau yn chwipio'r prom wedi bod yn eitha' cyffredin ar Cymru Fyw yn ystod y deuddeg mis diwetha'!