Gobaith newydd i Gymry trawsryweddol

Cyhoeddwyd
disgrifiad o’r llunClinig hunaniaeth rhywedd yng Nghaerdydd yw'r cam diweddara' i ateb anghenion pobl LGBT yng Nghymru

Mae nifer y bobl yng Nghymru sydd wedi cael eu cyfeirio at wasanaethau hunaniaeth rhywedd wedi mwy na dyblu ers 2011, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Hyd at nawr mae'r daith y mae pobl traws yng Nghymru wedi ei chael i ailbennu eu rhywedd wedi bod yn un hir a rhwystredig.

Un o'r rhai sy'n croesawu'r cam pwysig yma yw Jay Edwards, 21, o ardal Y Fenni, sy'n ddyn trawsrhyweddol.

Cafodd ei eni yn ferch, ond wrth gyrraedd canol ei arddegau gwelodd bod rhywbeth o'i le.

"Pan oeddwn i'n bymtheg oed, dywedodd athro'r gair 'trawsrhyweddol', a fe wnaeth rhywbeth glicio."

Sylweddolodd Jay mai bachgen oedd e i fod.

Dechreuodd y daith i ailbennu ei rywedd pan yn 16. Oherwydd nad oedd yna wasanaethau i'w cael yma yng Nghymru ar y pryd roedd yn rhaid iddo gael ei gyfeirio at seicolegydd plant yn Llundain.

Gan ei fod mor ifanc bu'n rhaid i Jay aros 18 mis cyn cael ei gyfeirio at Glinig Hunaniaeth Rhywedd Charing Cross.

ffynhonnell y llun, Clinic Hunaniaeth Rhywedd Charing Cross
disgrifiad o’r llunMae'n rhaid i Jay deithio yn rheolaidd i'r ganolfan hon yng nghanol Llundain am driniaeth

Siwrne rwystredig

"Chefais i ddim hormonau tan fy ail apwyntiad, chwe mis yn ddiweddarach," meddai Jay. "Roedd 'na dair blynedd wedi mynd heibio cyn i mi gyrraedd y pwynt yma. Roedd yr holl oedi yn rhwystredig iawn."

Mae therapi hormonau yn newid y corff i ymddangos yn fwy benywaidd neu wrywaidd, er enghraifft trwy ddyfnhau'r llais.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ym mis Awst y bydd sefydlu clinig ailbennu rhywedd yng Nghaerdydd erbyn gwanwyn 2018 yn mynd i'r afael â'r oedi yma.

Roedd yn rhaid i bobl yn yr un sefyllfa a Jay gael eu cyfeirio at y gwasanethau arbenigol yn Llundain trwy'r gwasanaethau iechyd meddwl.

Y gobaith yw na fydd angen i bobl draws yng Nghymru orfod mynd trwy'r broses honno pan fydd y clinig yn agor.

Pan roedd Jay yn teithio o Sir Fynwy i Lundain ar gyfer ei apwyntiadau roedd e'n gorfod ysgwyddo'r costau teithio.

Roedd e'n flin o wybod yn ddiweddarach ei bod hi'n bosib cael cymorth ariannol i'w helpu i brynu tocyn trên.

"Do'n i ddim yn ymwybodol o'r ffurflen HC3 tan fis Tachwedd 2016 felly tan hynny roeddwn i'n talu yn llawn am drenau," meddai.

Wnaeth y clinig ddim sôn wrth Jay ei bod hi'n bosib hawlio rhan o'i gostau yn ôl trwy lenwi'r ffurflen. Doedd 'na ddim gwybodaeth chwaith oedd yn tynnu sylw at y cymorth.

"Rwy'n synnu ei bod hi wedi cymryd mor hir i mi gael gwybod. Does bosib y byddai rhywun yn y clinig wedi sôn wrtha'i gan eu bod yn gwybod fy mod yn ddi-waith ac yn teithio mor bell yno.

"Unwaith ges i wybod wnes i gais am help gyda chostau teithio i fy mhumed apwyntiad ym mis Ionawr. Wnes i ddim derbyn taliad tan fis Medi. Ar y pryd, ro'n i'n skint felly roedd bod £60 allan o boced yn anodd iawn."

Yr ymgyrchu'n parhau

Mae Jay bellach yn gweithio felly does dim rhaid iddo hawlio arian am deithio ond roedd y pryder ariannol yn achosi rhagor o boen meddwl iddo.

"Dwi wedi crio ar ôl rhai apwyntiadau gan fy mod yn flinedig, wedi draenio'n emosiynol, ac rwy'n gwybod bod rhagor o apwyntiadau pryderus ar ôl."

Mae tystiolaeth yn dangos bod straen meddyliol yn broblem fawr i bobl trawsrhyweddol.

disgrifiad o’r llunMae'r gefnogaeth i bobl trawsryweddol yng Nghymru diolch i ddigwyddiadau blynyddol fel Pride Cymru

Yn ôl Stonewall Cymru mae dau o bob pump person ifanc traws wedi ceisio lladd eu hunain, a thri chwarter ohonyn nhw wedi niweidio eu hunain yn fwriadol.

Er y bydd 'na glinig ailbennu rhywedd yng Nghymru o'r diwedd, mae'r elusen yn parhau i ymgyrchu i wella'r gwasanethau sydd ar gael i bobl ifanc.

Ond mae Jay yn cydnabod bod y clinig newydd yn gam cadarnhaol yn y frwydr i wella'r ddarpariaeth i bobl draws yng Nghymru.

"Rwy'n gobeithio y bydd y clinig newydd yn lleihau'r rhestrau aros afresymol rwy' i wedi eu hwynebu ac y bydd hi'n bosib dysgu o'r hyn sydd wedi ei wneud mewn clinigau tebyg yn Lloegr.

"Rwy'n credu gall Cymru ddysgu o brofiadau cleifion. Dyw hi byth yn rhy hwyr i helpu pobl trawsryweddol."

Stori: Alys Jones. Mae Alys yn astudio Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd