Teyrngedau i'r Athro Emeritws Bobi Jones fu farw yn 88 oed

Bobi Jones Image copyright Cymdeithas y Dysgwyr

Bu farw'r Athro Emeritws Bobi Jones yn 88 oed.

Roedd yr Athro Robert Maynard Jones yn cael ei adnabod yn bennaf am ei waith fel bardd, beirniad llenyddol, llenyddiaeth Gristnogol a Chymraeg ail-iaith.

Cafodd yr academydd ei eni yng Nghaerdydd yn 1929, ac fe dderbyniodd ei addysg ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd ac yng Ngholeg Prifysgol Dulyn.

Bu'n Athro Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth o 1980 nes ei ymddeoliad. Ef hefyd oedd cyd-sylfaenydd Cymdeithas y Dysgwyr.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
"Roedd e’n un o ffigyrau mawr, cyfoethog yn ein llenyddiaeth fodern ni" yn ôl Yr Athro Derec Llwyd Morgan

Fe ddysgodd Yr Athro Bobi Jones y Gymraeg tra'n ddyn ifanc, a dyna oedd wrth wraidd ei ymroddiad i hyrwyddo dysgu Cymraeg i oedolion ac i hyrwyddo'r iaith ymhlith Cymry di-Gymraeg.

Mae'n gadael ei wraig Beti a dau o blant.

Meistroli'r Gymraeg

Mewn teyrnged iddo, dywedodd Dr Robin Chapman, Uwch Ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Aberystwyth: "Yn Bobi Jones, cafodd Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth gynt enfant terrible a wrthsafodd y demtasiwn hawdd i droi'n grand old man.

"Trwy ei yrfa yn Aber, yn yr Adran Addysg ac yn Adran y Gymraeg, fe amlygodd ddwy wedd gydymddibynnol ar ei bersonoliaeth a'i cadwodd hyd y diwedd yn fythol ifanc.

"Y naill oedd y dröedigaeth grefyddol a brofodd fel athro ysgol yn Llanidloes; y llall oedd y rhyfeddod parhaus o fod wedi meistroli'r Gymraeg a'i gwneud yn brif iaith ei fywyd a'i aelwyd gyda Beti.

"Fel yr esboniodd yn ei hunangofiant, O'r Bedd i'r Crud, bu ei ffydd, ei iaith, a'i wraig a'i blant yn ailenedigaeth iddo."

Wrth rannu eu teyrnged ar wefan Twitter, dywedodd Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe, ei bod hi'n "drist clywed am farwolaeth yr Athro Bobi Jones, llenor ac addysgwr disglair ac yn un o gewri diwylliant Cymru".

"Ein cydymdeimlad dwysaf i'w deulu, ac yn enwedig i'w ferch Lowri Gwenllian, sy'n aelod o staff yr Academi."

'Darlithydd cyfareddol'

Dywedodd Felicity Roberts, fu'n fyfyriwr yn Adran y Gymraeg yn Aberystwyth yn y 1970au ei fod yn "ddarlithydd cyfareddol" oedd yn "ysbrydoli gan roi adborth calonogol".

Yn ddiweddarach, gyda Bobi Jones bellach yn bennaeth adran y Gymraeg, cafodd Ms Roberts ei phenodi'n ddarlithydd â chyfrifoldeb am fodiwl Crefft Adfer Iaith: "Roedd Bobi yn gwbl argyhoeddedig mai'r ffordd i adfer y Gymraeg oedd i gael yr oedolion yn y gymdeithas i ddysgu'r iaith a'i defnyddio ar gyfer pob agwedd ar fywyd.

"Law yn llaw â'r cwrs academaidd hwn ysbrydolodd Bobi rai ohonom i fynd ati i sefydlu mudiad gwirfoddol.

"Galwyd y mudiad hwn yn 'Cyfeillion y Dysgwyr' yn y lle cyntaf, yna fe aeth yn Cyngor y Dysgwyr; ac wedi hynny penderfynwyd ar yr enw 'CYD' oherwydd mai'r hyn ydoedd mewn gwirionedd oedd mudiad i ddod â dysgwyr a siaradwyr Cymraeg rhugl ynghyd i siarad a gwneud pethau gyda'i gilydd yn Gymraeg."

Er bod CYD bellach wedi dod i ben fel mudiad cenedlaethol swyddogol, roedd Bobi Jones yn parhau i gefnogi'r gangen leol: "Mae'r gangen yn Aberystwyth yn parhau fel Clwb C ac hyd yn ddiweddar iawn deuai Bobi a Beti ei wraig yno i siarad â dysgwyr ar fore Iau dros baned o goffi.

"Roedd Bobi Jones yn Bennaeth Adran cadarn a charedig gyda gweledigaeth unigryw iawn, ac y mae yn gadael bwlch mawr ar ei ôl, ond fe fu ei ddylanwad yn fawr ac mae yn dal i dyfu fel y gaseg eira honno y byddai yn hoff o sôn amdani."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.