Cleddyf mawr Llanberis: A oes heddwch?

cleddyf

Mae cerflun o gleddyf 20 troedfedd o uchder wedi ei godi ar lan Llyn Padarn yng Ngwynedd.

Bwriad y cleddyf ydy codi ymwybyddiaeth o hanes Tywysogion Gwynedd a'u cyfraniad i dreftadaeth Gymreig yr ardal.

Cyngor Gwynedd sydd wedi bod yn gyfrifol am ddatblygu'r cynllun, gyda chefnogaeth gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Ond mae rhai trigolion a busnesau lleol wedi mynegi anfodlonrwydd gyda'r cerflun newydd.

Lleoliad anaddas?

Mae cynllun y cerflun wedi ei seilio ar y math o gleddyf y byddai Tywysogion Gwynedd wedi ei ddefnyddio yn y Canol Oesoedd, ac mae gofaint lleol wedi bod wrthi yn creu'r gwaith dros y misoedd diwethaf.

Mae'r datblygiad yn cyd-fynd ag ymgyrch Blwyddyn Chwedlau yn ystod 2017, sy'n cael ei hyrwyddo eleni gan Lywodraeth Cymru.

Un sydd ddim yn gwbl gefnogol i'r cerflun ydy'r cynghorydd cymuned Gwilym Evans.

Dywedodd ei bod yn credu y byddai'n "dod â rhywfaint" o bobl i'r ganol y pentre', ond mae'n credu y dylai'r cleddyf fod nes at Gastell Dolbadarn - strwythur ychydig tu allan i'r pentre' gafodd ei adeiladu gan Llywelyn Fawr.

"Y piti mwya' ydy'i leoliad o. Piti 'san nhw wedi'i roi o'n agosach at y castell," meddai Mr Evans.

"Dwi'm yn hollol siŵr os ydy'r lleoliad yn hollol addas. Cleddyf i gofio am Dywysogion Cymru ydy o, a Llywelyn, a rhywbeth sy'n ymwneud â'r castell."

Image copyright Iolo Penri
Image caption Mae'n debyg y cafodd Castell Dolbadarn ei godi gan Llywelyn Fawr ar ddechrau'r 13G

Mae twristiaeth yn ddiwydiant o bwys i Wynedd ac ardal Llanberis, ac mae 16,000 o drigolion Gwynedd yn cael eu cyflogi yn y sector.

Ond mae Stephen Edwards o Hwb Eryri - sy'n gweithio i ddatblygu syniadau am fentrau yn lleol - yn gweld cyfle.

"Yr ochr bositif... ydy ei fod am dynnu pobl newydd i fewn," meddai. "Y rheswm am y cleddyf ydy Castell Dolbadarn a gobeithio bod pobl yn gallu allgyfeirio i'r pentre' i weld y busnesau, siopau a'r caffis sydd yma."

Dywedodd bod Hwb Eryri nawr yn ystyried "creu llwybr" i gysylltu'r pentre' a'r castell.

Ond mae'n cydnabod bod cleddyf yn symbol dadleuol a bod rhai ddim yn hapus â'r cysylltiad â thrais.

"'Sa nhw 'di gallu rhoi person y tywysog ei hun ar gefn ceffyl neu rywbeth fel 'na," awgrymodd.

'Amharu' ar yr olygfa

Mae un arall o'r trigolion, Sally Ellis, yn poeni am yr effaith ar y golygfeydd.

"Mae o'n amharu twtsh bach ar yr olygfa lawr y dyffryn," meddai. "Mae 'na lot o bobl yn tynnu lluniau o'r man yna.

"Fydd y cleddyf yn lot o luniau rŵan - be' mae hynna'n feddwl i lot o bobl? Fydd o'n meddwl lot o bethau gwahanol."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Mae Gwasanaeth Twristiaeth a Marchnata'r Cyngor wedi derbyn grant drwy gronfa ymgysylltu twristiaeth ranbarthol Llywodraeth Cymru i gefnogi gwaith i osod cleddyf haearn.

"Fel sy'n wybyddus, mae gan Lanberis le o bwys yn ein hanes trwy gysylltiadau gyda Thywysogion Gwynedd fel Llywelyn Fawr, Llywelyn ap Gruffudd ac Owain Glyndŵr.

"Bwriad gosod y cleddyf ydi codi ymwybyddiaeth ymhlith ymwelwyr i'r ardal a thrigolion lleol am bwysigrwydd yr ardal ac am hanes a threftadaeth Gwynedd a Chymru fel cenedl.

"Mae'r gwaith o osod y cleddyf yn rhan o'n hymdrechion i annog pobl i ddod i brofi ein treftadaeth a'n hanes unigryw a sicrhau fod Gwynedd yn sicrhau sylw cenedlaethol a rhyngwladol fel cyrchfan ar gyfer twristiaeth ddiwylliannol."

Dewis enw

Fel rhan o'r cynllun fe wnaeth Cyngor Gwynedd ofyn am awgrymiadau am enw i'r cleddyf gan y cyhoedd, ac fe gafodd nifer o enwau posib eu cynnig ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru.

"Rydan ni'n ddiolchgar i bawb am eu hawgrymiadau, ac mae'r enwau wedi eu hystyried yn ofalus gan ddisgyblion Ysgol Dolbadarn, Llanberis sydd wedi bod yn brysur yn dewis enw," meddai llefarydd ar ran y cyngor.

Fe fydd yr enw'n cael ei gyhoeddi mewn seremoni yn Llanberis yr wythnos nesaf.

Pynciau Cysylltiedig