Dim cywilydd mewn llefain: Profiad Gwenan Gravell

llun Image copyright Gwenan Gravell

Roedd colli Ray Gravell yn ergyd fawr i nifer o Gymry, ond doedd y golled yn ddim i'w chymharu â'r golled bersonol i Mari, ei wraig, a'i ferched, Manon a Gwenan.

Dim ond naw oed oedd Gwenan pan fu farw ei thad, ac roedd Manon yn 12. Ddeng mlynedd ers ei phrofedigaeth mae Gwenan, sy'n astudio Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd, yn trafod ei phrofiad o ddelio gyda galar a'r angen am gefnogaeth i blant eraill yng Nghymru sy'n canfod eu hunain mewn sefyllfa debyg.


Roedd y syniad o golli rhywun mor agos byth wedi croesi fy meddwl ar y pryd, felly ffeindiais hi'n anodd derbyn ni fydden i'n gweld Dad eto.

Nid proses dros nos yw galaru, mae'n cymryd blynyddoedd i allu prosesu'r hyn sydd wedi digwydd, yn enwedig o safbwynt plentyn neu berson ifanc. Fel plentyn ysgol gynradd ar y pryd, ges i ddim llawer o brofiad gyda marwolaeth, felly pan farwodd Dad doedd dim llawer o syniad gen i o beth sy'n digwydd pan mae rhywun yn marw.

Gallwch ddadlau bod ddim angen i blant ifanc ddeall llawer am farwolaeth er mwyn cadw eu diniweidrwydd a'u hamddiffyn rhag creulondeb y byd, ond yn anffodus dydy hyn ddim wastad yn bosib.

Image copyright Gwenan Gravell
Image caption Gwenan gyda'i thad Ray ar wyliau yn Sbaen

Colli rhiant bob 22 munud

Ro'n i yn yr ysgol uwchradd pan gefais fy nghyflwyno gydag addysg ynglŷn â marwolaeth, ac erbyn hynny teimlais ei bod hi'n rhy hwyr i mi allu ceisio derbyn 'nôl y teimladau roeddwn i heb eu hwynebu am sawl blwyddyn.

Fel nifer fawr o blant sydd yn galaru, fe wnes i osgoi siarad am y peth gyda ffrindiau am sawl blwyddyn. Do'n i ddim am iddyn nhw deimlo'n lletchwith ac ro'n i'n ceisio perswadio fy hun fy mod i'n iawn - hyd yn oed os oedd hynny ddim yn wir. Yn fy meddwl i roedd dangos emosiwn ddim yn opsiwn i mi ac yn y pendraw wnaeth hyn achosi mwy o boen hirdymor.

Yn ôl elusen Childhood Bereavement Network, mae plant yn y DU yn colli rhiant bob 22 munud. Mae hyn yn profi nad oes yna reswm i beidio darparu mwy o wybodaeth i blant a phobl ifanc ar farwolaeth gan fod cymaint o blant yn galaru yn barod.

Image copyright Teulu Gravell
Image caption Ray Gravell gyda'i ferched Gwenan a Manon

Rhannu atgofion

Mae clywed pobl yn siarad am Dad a rhannu ei storïau amdano yn rhoi'r cyfle i mi ei 'nabod drwy lygaid pobl eraill. Mae'n bwysig bod plant sy'n galaru yn teimlo eu bod nhw'n gallu gofyn cwestiynau a rhannu eu hatgofion er mwyn iddyn nhw gadw'r atgof yn glir yn eu meddyliau.

Y cyngor gorau allai i ei roi i blant a phobl ifanc sydd yn galaru yw i rannu eich teimladau hyd yn oed os nad ydych chi'n teimlo gallwch chi ddelio gyda nhw. Mae'n well i rannu'ch problemau yn hytrach na cheisio delio gyda phopeth ar ben eich hun.

Ar ôl colli Dad, fe sylweddolodd Manon a finnau bod yna ddiffyg gwybodaeth a chymorth perthnasol i blant a phobl ifanc ar gael gan y gwasanaethau galar, yn enwedig yn yr iaith Gymraeg, felly fe aethom ati i geisio gwella'r sefyllfa.

Mae gwefan Project 13 yn galluogi pobl ifanc i rannu eu storïau o golli rhywun gan bod nifer fawr ohonyn nhw yn teimlo'n fwy cyfforddus rhannu eu problemau ar y we mewn ffyrdd anhysbys yn hytrach na siarad â rhywun fel cwnselydd neu ffrind.

Erbyn heddiw, mae nifer o bobl wedi cyfrannu eu storïau ar wefan y prosiect ac rydym yn falch iawn o weld bod unigolion yn ffeindio'r wefan yn ddefnyddiol ac yn ffeindio cysur trwy rannu eu profiadau. Gwefan ddwyiethog yw hi ond mae'n braf gweld bod y Gymraeg yn cael ei defnyddio.

Image copyright Gwenan Gravell
Image caption Gwenan a'i thad adeg Eisteddfod Llanelli, 2000

Galaru mewn ffyrdd gwahanol

Mae cyfrol Galar a Fi gafodd ei chyhoeddi eleni dwi'n credu yn help mawr i bobl ifanc sydd yn galaru. Un stori wnaeth sefyll allan i mi oedd profiad Nia Gwyndaf o golli ei gŵr Eifion. Roedd ei stori wedi taro gartref wrth iddi sôn am ei phlant ifanc yn delio gyda'r sefyllfa a'i bod hi'n siarad am ei gŵr yn aml gyda'i phlant.

Mae'n bwysig i gofio does dim un ffordd gywir o ddelio â cholled ac mae pawb yn galaru mewn ffyrdd gwahanol.

Rwy'n sicr mai colli fy nhad yw un o'r pethau mwyaf trawmatig a chaled byddai'n mynd drwyddo yn fy mywyd. Roedd Dad yn aml yn dweud "s'dim cywilydd mewn llefain", a dwi 'di llefain lot fawr dros y 10 mlynedd ddiwethaf!

Cymerodd amser hir i mi dderbyn marwolaeth Dad, yn bennaf achos fy oedran ar y pryd ond trwy siarad gyda theulu a ffrindiau a sôn am fy atgofion a chlywed straeon pobl eraill o Dad, fe ddaeth pethau'n rhwyddach i dderbyn.

Mae hi'n ddeg mlynedd ers i mi golli Dad, ac er i'r amser yma leddfu'r boen mae'r gwacter dal yna. Bydd wastad rhan ohonom ni'n disgwyl iddo gerdded mewn trwy'r drws unrhyw funud.