Geiriau gwlyb

Image copyright Getty Images

Cymru... gwlad y glaw. Ta beth yw'r realiti, mae'n ystrydeb cyfarwydd. Ac os oes unrhyw wirionedd yn y farn boblogaidd mai Cymru yw gwlad gwlypaf y DU, mae'n rhaid bod ein hiaith ni'n adlewyrchu hynny?

Felly, sawl gair sydd yna ar gyfer y glaw neu i ddisgrifio'r glaw yn Gymraeg? Rhowch eich ymbarél i fyny, eich cot law amdanoch a mentrwch allan i'r gwlybanwch.

Idiomau

  • Bwrw hen wragedd a ffyn
  • Bwrw cyllyll a ffyrc

Dyma rai o ffyrdd mwyaf lliwgar ac unigryw'r Cymry o ddisgrifio'r glaw. Mae delwedd y ffyn a'r cyllyll yn cyfeirio at y glaw yn cwympo mewn llinellau syth, hir. Mae'r hen idiomau Saesneg 'raining chair legs' a 'raining stair rods' yn gwneud yr un peth, ac mae'r Almaenwyr a'r Ffrancod yn defnyddio'r un math o ddelwedd wrth ddisgrifio'r glaw fel rhaff neu linyn.

Hen ddywediad Cymraeg arall yw 'bwrw fel o grwc' sy'n cyfateb i'r term Saesneg 'bucketing down'. Wrth gwrs, mae 'na ffordd arall, tipyn mwy di-chwaeth, o ddisgrifio gollwng dŵr sy'n gyfarwydd iawn yn y Gymraeg llafar. Gwartheg sy'n cael eu defnyddio i ddarlunio toreth y llif mewn ymadrodd Ffrangeg tebyg: "Il pleut comme vaches qui pissent."

Mae nifer o eiriau tafodieithol arall am law sy'n amrywio o ardal i ardal (pan mae'n stido yn y gogledd, mae'n ei thowlud hi lawr yn y de-orllewin). Daw rhai geiriau o fyd amaeth (e.e. glaw tyfu, glaw Mai) ac mae mathau eraill o law wedi eu henwi ar ôl lleoedd penodol (glaw 'Stiniog a glaw tinwyn Abertawe).

Tybed faint o'r rhein y'ch chi'n eu defnyddio?

Math o law

  • Cawod
  • Curlaw (pelting rain)
  • Glaw gyrru
  • Glaw iâ
  • Glaw mân
  • Glawn smwc
  • Glaw taranau
  • Glaw trwm
  • Gwlithlaw

Graddfeydd o law

Gwisgwch got law ysgafn neu cymrwch y goes...

  • Dafnu
  • Pigo
  • Smwcan

Angen welis neu cysgodwch tan iddo fynd heibio...

  • Arllwys y glaw
  • Chwpio bwrw
  • Dymchwel ('chucking it down')
  • Piso
  • Pistyllio
  • Sgrympian (cawod sydyn a thrwm)
  • Stido
  • Tollti
  • Towlud/Taflu
  • Tresio

Disgrifio'r glaw

  • Glaw gochel - glaw i guddio rhagddo
  • Glaw Mai - glaw cyntaf mis Mai - yn cael ei groesawu gan ffermwyr gan ei fod yn lladd y llau ar y da
  • Glaw golau - glaw pan mae'r awyr yn edrych yn olau tuag at y dwyrain
  • Glaw mynydd - glaw'n syrthio ar y tir uchel pan mae'n sych ar yr iseldir
  • Glaw 'Stiniog - math o law unigryw sy'n gyfarwydd iawn i unrhywun o Flaenau Ffestiniog
  • Glaw tinwyn Abertawe - glaw oer, trwm o gyfeiriad y de-ddwyrain sy'n parhau trwy'r diwrnod
  • Glaw tyfu - glaw mis Ebrill sy'n hybu tyfiant

Rhannwch eich geiriau chi am law gyda ni trwy e-bostio cymrufyw@bbc.co.uk.

Sion Williams:

Wedi clywed a defnyddio llawer o'r rhain - ond nid y rhai sy'n berthnasol i'r De.

Dad hefyd yn defnyddio: "Sgrympiau gŵyl y Grog" sef cawodydd trymion o gwmpas 14 Medi (Holy Rood Day yn Saesneg).

Gyda llaw, yr un ymadrodd "Bwrw hen wragedd a ffyn" a geir yn Afrikaans hefyd. Dydy o ddim yn unigryw i ni'r Cymry!


Mari:

"Stowcio bwrw" fydden i'n ddweud am law trwm (Dolgellau), neu falle "tywallt y glaw". Mae fy ngŵr yn dweud "tywydd hosan" am dywydd gwlyb iawn - falle bod hynny'n tarddu o "socian"?!


Bidi Griffiths, Aberaeron:

Pan oeddwn yn byw yn Mathri yn Sir Benfro, y dywediad am ddiwrnod gwlyb diflas oedd "Mae'n slabog."


Bethan Antur:

Ardal Y Bala a Phenllyn yn defnyddio 'glawio' a 'glawio'n drwm' a 'pigo'. Bydden ni hefyd yn cyfeirio at ddiwrnod diflas o ran y tywydd yn 'ddiwrnod pîg'...


Ceri Thomas, Bae Colwyn:

Mae fy nhad o Geredigion yn dweud "diwel y glaw".

"Tresio bwrw" oedd un o ddywediadau un o fy athrawon ysgol gynradd. Roedd hi'n dod o Gaernarfon.


Non Evans, Caerdydd:

Beth am 'diwel y glaw' ?

Mae 'Salm y Genedl' gan Jennie Eirian yn gorffen gyda'r frawddeg 'Diwel dy wlith ar Walia Wen'.


Rhys, Llundain:

Rwy'n hoff iawn o ysgrif TH Parry Willams am y glaw, sy'n cynnwys hanes difyr ohono yn disgwyl i'r glaw orffen bwrw, wrth wrando ar y glaw ac emyn yn cael ei ganu, ar borth egwlys.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.