Cam-drin dyfarnwyr: Pump yn gadael
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Cam-drin dyfarnwyr: Pump o'r canolbarth yn gadael

11 Hydref 2017 Diweddarwyd 13:20 BST

Mae clybiau pêl-droed yn y canolbarth yn wynebu prinder dyfarnwyr oherwydd ymddygiad gwael chwaraewyr a chefnogwyr.

Yn ddiweddar mae pump o ddyfarnwyr Cymdeithas Bêl-droed y Canolbarth wedi gadael, gyda chwech arall yn "wirioneddol ystyried" rhoi'r gorau i'r gwaith.