Cynnig i dalu am gofeb i emynwyr mwyaf dylanwadol Cymru

emynwyr

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud ei bod yn barod i ariannu cofeb i gofio dau o emynwyr mwyaf dylanwadol Cymru.

Dywedodd Ysgrifennydd Economi Cymru, Ken Skates, petai cais addas yn cael ei gyflwyno i greu cofeb i William Williams, Pantycelyn ac Ann Griffiths, y byddai Llywodraeth Cymru yn barod i dalu am y gwaith.

Roedd yn ymateb i gwestiwn gan Aelod Cynulliad Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth ar lawr y siambr ddydd Mercher, pan ofynnodd pa gynlluniau oedd gan Lywodraeth Cymru i nodi 300 mlwyddiant geni William Williams Pantycelyn.

Wrth ymateb i feirniadaeth fod y Llywodraeth wedi methu â threfnu digwyddiadau i nodi 300 mlynedd ers geni'r Per Ganiedydd, dywedodd Mr Skates ei fod yn "ofid nad oedd unrhyw bartneriaid posibl wedi cysylltu â'r Llywodraeth" ynghylch y posibilrwydd o drefnu coffa addas.

Tra'n cefnogi'r syniad o gael cofeb i William Williams Pantycelyn, awgrymodd yr Aelod Cynulliad Ceidwadol Darren Millar y dylid hefyd cael cofeb i Ann Griffiths am ei chyfraniad hithau.

Cynigiodd Mr Skates drefnu cyfarfod rhwng ACau a Swyddogion y Llywodraeth i ddatblygu cynlluniau ar gyfer cofeb i'r ddau emynydd, a dywedodd y byddai cofeb i Ann Griffiths, hefyd yn fodd o fynd i'r afael â'r diffyg cofebion i fenywod amlwg yng Nghymru.

Image caption Fferm Pantycelyn ger Llanymddyfri

Pantycelyn oedd yn gyfrifol am gyfansoddi rhai o emynau mawr yr Hen Gorff, gan gynnwys yr emyn-donau Tŷddewi (Mi dafla maich), O llefara addfwyn Iesu a Tyred Iesu i'r anialwch.

Roedd Ann Griffiths yn byw yng nghyfnod y Diwygiad yng Nghymru, a chaiff ei chofio am ei hemynau a'i llythyrau.

Mae'r emynau'n cyfleu ei phrofiad dwys hi o gred y Methodistiaid, ac wedi dod yn rhan bwysig iawn o wasanaethau crefyddol.

Dewisodd y Dr Rowan Williams un o emynau Ann Griffiths - "Yr Arglwydd Iesu" i gael ei chanu yn y seremoni pan gafodd ei orseddu yn Archesgob Caergaint yn Chwefror 2003, ac fe berfformiodd Cwmni Theatr Maldwyn sioe gerdd am hanes ei bywyd yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod 2003.

Yn ôl rhai beirniaid, Williams yw'r bardd pwysicaf yn yr iaith Gymraeg, am ei allu i fynegi profiadau crefyddol gyda chyfoeth o symbolau ac uniongyrchedd.

Pynciau Cysylltiedig