Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad difrifol ar yr M4

Image of queue Image copyright @Richard16814
Image caption Ar un adeg roedd tagfa draffig hyd at 16 milltir

Mae'r heddlu wedi cadarnhau fod dyn yn ei 70'au wedi marw mewn gwrthdrawiad difrifol ar yr M4 ger Casnewydd ddydd Mawrth.

Ar un cyfnod bu traffig yn ciwio am 16 milltir o gyffordd 29, gyda phob lôn tua'r dwyrain ar gau rhwng C24 (Coldra) a C23 (M48) yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car Ford Mondeo a fan Mercedes Sprinter.

Bu farw gyrrwr y car, a oedd yn wreiddiol o ardal Abertawe, yn y fan a'r lle. Chafodd gyrrwr y fan ddim anafiadau.

Image copyright Traffic Camera Wales
Image caption Ciwiau am 16 milltir o gyffordd 29 o'r M4 ddydd Mawrth

Fe gafodd yr heddlu eu galw gyntaf am 14:09 brynhawn Mawrth, a chafodd dwy lôn ar y ffordd tua'r gorllewin hefyd eu cau.

Cafodd Ambiwlans Awyr Cymru, Heddlu Gwent a dau griw o ddiffoddwyr eu galw i'r safle i ddelio â'r digwyddiad.