100 o swyddi ariannol newydd i Gaerdydd

Capital Tower, Cardiff Image copyright Geograph/Jaggery
Image caption Bydd y ganolfan yn Nhŵr Capital yn y brifddinas

Mae cwmni ariannol Hamlyn Williams yn bwriadu creu 100 o swyddi newydd yng Nghaerdydd.

Eisoes mae gan yr asiantaeth recriwtio i wasanaethau ariannol swyddfeydd yn Llundain, Efrog Newydd, Hong Kong a Dubai.

Dywedodd y cwmni eu bod wedi penderfynu sefydlu canolfan newydd yng Nghaerdydd - er gwaetha' cynigion i fynd i Dde Affrica - oherwydd cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates: "Mae gennym lawer i'w gynnig i fusnesau yn y sectorau ariannol a gwasanaethau proffesiynol.

"Rydym eisoes wedi denu cwmnïau mawr fel Deloitte i Gymru, ac rwyf wrth fy modd yn croesawu Hamlyn Williams i ymuno â rhestr o gwmnïau sydd wedi mwynhau twf a llewyrch yma."

Dywedodd sylfaenydd a phrif weithredwr Hamlyn Williams, Nick Vaughan: "Caerdydd yw'r lle delfrydol i ni ddechrau ar y bennod newydd yma.

"Bydd y brifysgol yn darparu llif o raddedigion ifanc deinamig fydd yn dod â brwdfrydedd ac egni i'r cwmni."

Pynciau Cysylltiedig