Heddlu'n ymchwilio i gyfres o ymosodiadau yn Y Drenewydd

Digwyddodd un o'r ymosodiadau ym maes parcio McDonalds Image copyright Google
Image caption Digwyddodd un o'r ymosodiadau ym maes parcio McDonalds yn y dref

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i gyfres o ymosodiadau gan grŵp o lanciau yn Y Drenewydd.

Yn y digwyddiad cyntaf ar faes parcio McDonalds rhwng 02:00 a 04:00 fore Sadwrn cafodd dyn anafiadau difrifol i'w ben yn dilyn ymosodiad.

Mae'r heddlu'n credu bod tua 10 o bobl yn rhan o'r ymosodiad, ac maen nhw'n apelio am lygad dystion.

Roedd ymosodiad arall rhwng Ffordd Dolfor ac Ysgol Dafydd Llwyd nos Sadwrn rhwng 23:00 a 23:30.

Arestio llanciau

Digwyddodd trydydd ymosodiad rhwng 01:30 a 02:30 ddydd Sul, pan ymosododd grŵp o bobl ifanc ar ddau ddyn.

Cafodd y ddau anafiadau, ac mae un o'r dynion wedi torri ei goes.

Mae'r heddlu wedi arestio pump o lanciau a dywedodd yr Arolygydd Jonathan Rees-Jones eu bod yn disgwyl arestio mwy o unigolion mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Dywedodd: "Mae'r heddlu wedi bod mewn cysylltiad ag Ysgol Uwchradd Y Drenewydd a byddwn yn ymweld â'r ysgol er mwyn cyflwyno'r neges i'r bobl ifanc bod y math yma o ymddygiad yn cael effaith ddifrifol ar y gymuned ac mae angen ei atal ar unwaith.

"Rydym yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiadau i gysylltu â'r heddlu ar 101."

Pynciau Cysylltiedig