Trech gwlad nag arglwydd

Fe fydd y rheiny sy'n cofio'r dyddiau pan oedd Gwynfor Evans yn gwleidydda'n gyfarwydd â'i hoff bregeth - honno ynghylch y gwahaniaeth rhwng cenedl a gwladwriaeth a hawl cynhenid cenhedloedd i bennu eu tynged eu hun.

Mae'r hawl hwnnw yn greiddiol i siarter y Cenhedloedd Unedig. Yn wir, mae'n ymddangos yn y cymal cyntaf un o'r siarter ond mae'r syniad yn hŷn na hynny.

Woodrow Wilson wnaeth ddyrchafu'r syniad yn egwyddor gyda'i bedwar pwynt ar ddeg oedd yn sylfaen i gytundeb Versailles. Mae pump o'r pwyntiau yn cyfeirio at yr hawl hwnnw ond doedd Wilson ddim yn cynnig diffiniad o bwy oedd â'r hawl nac yn cynnig modd o ddiffinio pwy oedd yn bobol neu'n genedl. Yn wir, fe wnaeth Wilson bwynt o bwysleisio nad oedd gan y Gwyddelod yr hawl i bennu eu tynged gan eu bod yn rhan o wladwriaeth ddemocrataidd ac, ar hyd y blynyddoedd, mae'r Americanwyr wedi dewis bod yn gibddall ynghylch hawliau pobol llefydd fel Guam a Puerto Rico.

Mae hynny'n dod a ni at Gatalwnia a'r anghydfod rhwng y llywodraeth yn Barcelona a'r un yn Madrid.

Mae hon yn ffrae ddwbl mewn gwirionedd a'r ddadl ynghylch p'un ai y byddai annibyniaeth yn beth da ai peidio yw'r lleiaf diddorol o'r ddwy. Yn fwy diddorol, i ni'r geeks cyfansoddiadol o leiaf, yw'r un ynghylch hawl pobl Catalwnia i ystyried nhw eu hun yn genedl a phennu eu tynged nhw eu hun.

Yn ôl yn 2010 fe gytunodd y Llywodraeth Sosialaidd yn Madrid a'r awdurdodau yn Barcelona y dylid ystyried Catalwnia yn 'genedl o fewn Sbaen' gyda statws a hawliau arbennig, tebyg i'r rheiny sydd eisoes yn eiddo i'r Basgiaid. Cafodd y cytundeb hwnnw ei wyrdroi gan y Llys Cyfansoddiadol Sbaenaidd ar gais plaid Mariano Rajoy oedd yn wrthblaid ar y pryd.

Pe na bai'r Llys wedi ymyrryd yn 2010 mae'n ddigon posib na fyddai'r anghydfod presennol wedi codi o gwbwl gan fod arolygon barn wedi awgrymu'n gyson bod mwyafrif mawr o drigolion Catalwnia yn credu bod ganddynt yr hawl i fod yn annibynnol ond, o fwyafrif llai, yn credu na fyddai hynny'n syniad da.

Mae'r hyn sydd yn digwydd yn Sbaen yn enghraifft o'r problemau sy'n gallu codi o gael cyfansoddiad ysgrifenedig - yn enwedig os ydy'r cyfansoddiad hwnnw yn cael ei ddyrchafu i fod yn rhyw fath o ddogfen sanctaidd fel sydd wedi digwydd yn yr Unol Daleithiau, er enghraifft.

Mae'r Deyrnas Unedig wrth gwrs yn un o hanner dwsin o wledydd sydd heb gyfansoddiad ysgrifenedig. Mae'r rheiny'n amrywio o wledydd hynod ddemocrataidd a rhyddfrydol megis Canada i'r rheiny sydd ar eithaf arall y sbectrwm cyfansoddiadol. Helo, Saudi Arabia!

Pe bai cyfansoddiad Prydeinig ffurfiol yn cael ei lunio un o'r pynciau allweddol fyddai hawliau'r pedair tiriogaeth i adael yr undeb. Mae cytundeb Gwener y Groglith a chytundeb Downing Street rhwng David Cameron ac Alex Salmond yn awgrymu bod yr hawl hwnnw'n rhan o'n cyfansoddiad anffurfiol presennol ond rwy'n amau y byddai 'na wrthwynebiad ffyrnig i'w ffurfioli.

"Be careful what you wish for" fel maen nhw'n dweud!