Drakeford: Dwy flynedd o doriadau i gyllidebau cyngor

Mark Drakeford
Image caption Dywedodd Mark Drakeford bod y setliad ariannol yn un "realistig"

Bydd cynghorau yn gweld gostyngiad o 0.5% yn yr arian y byddan nhw'n ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf.

Brynhawn Mawrth cyhoeddodd y Gweindiog Cyllid, Mark Drakeford y bydd awdurdodau hefyd yn wynebu toriad pellach o 1.5% y flwyddyn ganlynol.

Rhoddodd y bai am y gostyngiad ar y gyllideb y mae Llywodraeth Cymru yn ei dderbyn gan y Trysorlys.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dweud na fydd gwasanaethau yn gallu parhau yn sgil y toriadau.

Mae arweinwyr awdurdodau lleol eisioed wedi rhybuddio y byddai setliad o'r fath yn arwain at gynydd mewn treth cyngor o hyd at 5%, a bod gwasanaethau lleol ar groesffordd.

Cyllideb Caerdydd i gynyddu

Dywedodd Mr Drakeford y byddai'r arian sy'n cael ei glustnodi i ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol yn cael ei godi i £62m a £42m.

Ond mae'r penderfyniadau yna yn golygu y bydd llai o arian ar gael ar gyfer gwasanaethau fel llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden.

Bydd cyngor mwyaf Cymru, Caerdydd, yn cael cynnydd o 0.2% yn eu cyllideb, tra bod pob awdurdod arall yn wynebu toriad.

Bydd y toriadau mwyaf, o 1%, yn Sir Fynwy, Merthyr Tudful, Blaenau Gwen, Caerffili, Powys a Chonwy.

Dywedodd Mr Drakeford: "Mae hwn yn setliad realistig sy'n parhau i warchod llywodraethau lleol rhag toriadau sylweddol, er gwaethaf cyllidebau gan Lywodraeth y DU sy'n crebachu."

Image copyright Thinkstock
Image caption Mae awdurdodau lleol yn wynebu gwneud toriadau pellach ar wasanaethau fel pyllau nofio a chanolfannau hamdden

Mewn datganiad ar ôl y cyhoeddiad, dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Lleol Cymru eu bod nhw eisioes wedi wynebu toriadau o £1bn dros y blynyddoedd diwethaf, a bod 25,000 o swyddi wedi diflannu.

Roedden nhw hefyd yn honni nad oedd y pennawd 0.5% yn adlewyrchiad teg a llawn o'r sefyllfa.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar lywodraeth leol, Sian Gwenllian: "Mae hwn unwaith eto yn setliad anodd dros ben i gynghorau Cymru.

"Mae hwn yn barhâd o bolisiau llymdra llywodraeth Geidwadol Prydain, ac mae'n golygu y bydd na doriadau i wasanaethau. Bydd pobl fregus ar draws Cymru yn dioddef o'r herwydd."

Gwrthod y feirniadaeth o Lywodraeth Prydain wnaeth Janet Finch-Saunders AC ar ran y Ceidwadwyr gan ddweud bod y Trysorlys wedi gwarantu cyllido teg i Gymru drwy'r fframwaith gyllidol.

A dywedodd llefarydd llywodraeth leol UKIP, Gareth Bennett, bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru roi'r gorau i feirniadu'r Trysorlys am doriadau i wasanaethau am fod hynny'n "annheg ar drethdalwyr Cymru sydd wedi cael llond bol o glywed yr un hen esgusodion".

Straeon perthnasol