Cefnogwyr yn cyrraedd Caerdydd

Mae cefnogwyr pêl-droed Iwerddon a Chymru wedi cyrraedd y brifddinas yn eu miloedd - ac mae'r Gwyddelod eisoes yn mwynhau cyfeillgarwch Caerdydd.

Dyma gipolwg mewn lluniau ar gyffro'r diwrnod wrth i Gymru baratoi i herio Iwerddon:

Image caption Mae Guto, Emyr a Ben yn teithio'r holl ffordd i lawr o Lanfairpwll i gefnogi Cymru
Image caption Ann Jones ac Elin Jones - Dirprwy Lywydd a Llywydd y Cynulliad
Image copyright @ColinBarker75
Image caption Cafodd y ddau gefnogwr lwcus yma y cyfle i gyfarfod un o fawrion pêl-droed Cymru, Ian Rush
Image copyright Criw Traws
Image caption Mae criw Trawsfynydd ar y ffordd i'r de!
Image caption Ar ôl 200 milltir yn y car, mae'r hogiau wedi cyrraedd
Image caption Y Gwyddelod yn cyrraedd ar gyfer y gêm fawr
Image caption Sgarffiau ar gyfer noson hanesyddol
Image caption Wedi cyrraedd yr orsaf
Image caption Y teulu James yn teithio lawr o Benrhyncoch
Image caption Peint bach i setlo'r nerfau
Image caption Iwan Pryce, Iola Wyn a'r teulu o San Clêr ar eu ffordd
Image caption Mae'r Cymry'n gobeithio nad yw hyn yn gywir!
Image caption Ffrindiau gorau... tan 19:45
Image caption C'mon Cymru!

Cofiwch y gallwch ddilyn y gêm yn fyw heno ar BBC Cymru Fyw, Radio Cymru a S4C. Bydd y cyfan yn dechrau am 19:00 ar Cymru Fyw.

Straeon perthnasol