Cynghorau yn ‘esgeuluso’ sefydlu safleoedd i Sipsiwn

Kings Meadow Gypsy site Image copyright Kier
Image caption Yn 2014 cafodd safle ym Mannau Brycheiniog ei adeiladu ar gyfer sipsiwn gan awdurdod lleol a hynny am y tro cyntaf ers 1997

Mae nifer carafanau sipsiwn a theithwyr ar safloedd swyddogol wedi treblu yn ystod y degawd diwethaf oherwydd "esgeulustod" cynghorau yn ôl grŵp ymgyrchu.

Yn 2007 roedd 31 carafan ar safleoedd swyddogol a 34 ar rai answyddogol.

Ond roedd y niferoedd cyfatebol fis Gorffennaf eleni yn 87 a 32.

Wnaeth y cynghorau ddim gwneud digon tan iddyn nhw gael eu gorfodi yn ôl Trudy Aspinall, sy'n eiriol ar ran Sipsiwn a theithwyr.

Ond yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru roedd cynghorau wedi cyflwyno asesiadau llefydd aros ar gyfer 2015-20.

Ac yn ôl llefarydd roedd yna gyfyngu ar y grant oedd ar gael gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu, ehangu neu adnewyddu safleoedd.

Mae Gwynedd, Casnewydd, Sir Benfro a Phowys wedi llwyddo i gael arian ar gyfer 2017-18.

Ond dydi y rhan fwyaf o'r cynghorau ddim wedi cymryd eu dyletswyddau yn y maes o ddifrif tan oedd raid iddyn nhw yn ôl Ms Aspinall, sy'n gweithio fel rheolydd tîm y grŵp eiriolaeth Travelling Ahead.

Un o'r ffactorau allweddol yn y cynnydd oedd y newid yn Neddf Tai (Cymru) 2014 oedd yn rhoi cyfrifoldeb ar gynghorau i ddarparu safloedd os oedd galw.

Safleoedd

Yng Ngorffennaf eleni doedd gan Ynys Môn, Sir Ddinbych, Ceredigion a Chaerffili ddim safleoedd swyddogol a Chaerffili yw'r unig gyngor heb un ers 2007.

Ym Môn mae tir wedi ei glustnodi fel lle aros tros dro a man arall fel fel safle parhaol.

Mae Sir Ddinbych yn chwilio am safle ar gyfer chwe carafan a safle symudol.

Ond does gan Geredigion na Chaerffili gynlluniau i sefydlu safle gan ddadlau nad oes yna alw yn ôl arolwg yn 2016.

Image caption Mae angen i gynghorau ystyried anghenion Sipsiwn a theithwyr medd Trudy Aspinall

Ar y pegwn arall mae Sir Benfro wedi cynyddu ei safleoedd swyddogol o 7 yn 2007 i 20 yn 2017 a Sir Fflint o 3 i 10.

Mae Ms Aspinall yn dweud fod Sipsiwn a theithwyr yn cael eu trin yn annheg.

"Yn rhy aml fe welwch chi aelodau etholedig yn siarad yn gyhoeddus mewn cyfarfodydd yn erbyn Sipsiwn a theithwyr, anaml y gwelwch nhw yn siarad o blaid.

"Mae angen i awdurdodau lleol weithredu y gyfraith a'r canllawiau mewn ysbryd o chware teg i Sipsiwn a theithwyr a rhoi'r sylw dyladwy i'w anghenion gan gofio yr hir esgeulustod."

Mae teuluoedd yn rhwystredig gyda arafwch y cynnydd, meddai gan ddweud y byddai creu mwy o safleoedd swyddogol o fudd i bawb.

Straeon perthnasol