Canu anthem Cymru yn ddigyfeiliant i hybu awyrgylch

cefnogwyr Image copyright Getty Images

Dim ond ychydig o gerddoriaeth Hen Wlad Fy Nhadau fydd yn cael ei chwarae yn ystod gêm Cymru yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon nos Lun.

Bydd gweddill yr anthem yn cael ei chanu yn ddigyfeiliant, er mwyn ceisio ychwanegu at yr awyrgylch.

Dim ond pwynt sydd yn gwahanu Cymru a Gweriniaeth Iwerddon ac mae'r ddau dîm yn cystadlu am eu lle yng Nghwpan y Byd 2018.

Roedd problemau ar ddechrau gêm Cymru yn erbyn Georgia nos Wener yn Tbilisi pan ddaeth y gerddoriaeth i ben cyn diwedd yr anthem.

Ond parhaodd cefnogwyr Cymru i ganu, a nawr mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau bod carfan Chris Coleman wedi gofyn i'r cefnogwyr ganu rhywfaint o Hen Wlad Fy Nhadau heb gerddoriaeth nos Lun.

Y gobaith yw ychwanegu at yr awyrgylch yn Stadiwm Dinas Caerdydd cyn y gêm hollbwysig.

Mae disgwyl i'r stadiwm, sy'n dal 33,000, fod yn llawn ar gyfer y gêm, sy'n dechrau am 19:45.