Oedi ar yr M4 ar ôl i fan fynd ar dân

Y fan Image copyright SUZANNE DAVEY

Mae'r lôn ddwyreiniol rhwng cyffordd 34-35 Misgyn a Phencoed ar yr M4 wedi ail agor ar ôl i fan fynd ar dân.

Roedd y ffordd ar gau am gyfnod.

Cafodd y gwasanaeth tân ei alw toc wedi 16:15 ddydd Sul ac maen nhw'n dweud bod y tân wedi cychwyn yn ddamweiniol.

Mae yna rybudd y bydd oedi mawr i yrwyr ond does dim adroddiadau bod neb wedi ei anafu.