Is-hyfforddwr Cymru yn disgwyl 'noson danbaid'

Osian Roberts
Image caption Mae Osian Roberts yn disgwyl i'r ddau dîm frwydro am y bêl nos Lun

Mae is-hyfforddwr tîm pêl droed Cymru wedi dweud ei fod yn disgwyl "noson danbaid" nos Lun wrth i Gymru wynebu Gweriniaeth Iwerddon yn stadiwm dinas Caerdydd.

Mae'r ddau dîm angen buddugoliaeth er mwyn cadw eu gobeithion yn fyw o gael chwarae ym Mhencampwriaeth y Byd yn Rwsia flwyddyn nesaf.

Dim ond pwynt sydd yn eu gwahanu.

Yn ôl Osian Roberts mae'n disgwyl gêm debyg i'r un ddiwethaf pan oedden nhw'n wynebu ei gilydd yn Nulyn ym mis Mawrth.

"Dau dîm sydd mynd i frwydro am yr oruchafiaeth yna. Y ddau dîm fydd yn gwybod bod y gôl gyntaf yna yn gallu newid bob dim o ran patrwm y gêm," meddai.

"Maen nhw'n eithriadol o dda am neud be maen nhw'n neud," ychwanegodd.

"Athroniaeth dipyn gwahanol i ni ond ar ôl deud hynny yr un mor effeithiol ag yr un mor anodd i ddelio efo fo. Mae mynd i fod yn noson danbaid, does 'na'm dwywaith am hynny."

Wedi'r gêm nos Wener yn erbyn Georgia yn Tbilisi mae'n dweud bod yr holl chwaraewyr yn ffit ac mewn ysbryd da.

Mae Osian Roberts yn cydnabod hefyd y bydd profiad rhai o'r chwaraewyr mewn ymgyrchoedd eraill fel yr Euros yn help ar gyfer y gêm dyngedfennol.

Image caption Roedd Gareth Bale, sydd wedi ei anafu, yn gwylio'r chwaraewyr eraill yn ymarfer dydd Sul

"Mae hynny yn rhoi calanogaeth a ffydd i'r chwaraewyr bod nhw wedi bod mewn sefyllfaoedd fel hyn o'r blaen ac wedi dod trwyddyn nhw."

Ond mae'n dweud bod llwyddiannau'r gorffennol "ddim yn mynd i gyfri dim byd" nos Lun.

Heblaw am berfformiad y garfan bydd gan y cefnogwyr ran bwysig i chwarae hefyd.

"Mae 'na rwbath arall, rhwbath yn cael ei ategu i'r sgript yna bron bob gêm dyddiau yma - wrth gwrs efo'r anthem i gyd ddim yn cael ei chwarae allan yn Tbilisi, yn dod a rhwbath arall allan o'r cefnogwyr, a'r chwaraewyr, a'r staff a phawb oedd allan yno.

"Mi fydd cael pawb yno yn canu'r anthem dan ei sang yn brofiad gwych ac yn ddechreuad gwych i, gobeithio, be fydd yn noson wych."

Straeon perthnasol