Wrecsam 2-1 Eastleigh

Chris Holroyd Image copyright Rex Features
Image caption Chris Holroyd gafodd yr ail gôl

Cafodd Wrecsam ei seithfed buddugoliaeth y tymor hwn a hynny ar ôl bod ar ei hôl hi o 1-0 hanner amser.

Eastleigh aeth ar y blaen yn yr hanner cyntaf a hynny ar y Cae Ras o flaen torf o bron i 4,000.

Ond yn yr ail hanner sgoriodd capten y Cochion Shaun Pearson beniad nerthol i ddod a'r tîm cartref yn gyfartal.

Chris Holroyd rwydodd i ddod a buddugoliaeth sy'n codi'r tîm o'r Gogledd i'r pumed safle yn y gynghrair.