Seintiau Newydd 4-0 Elgin

Pel droed

Mae'r Seintiau Newydd trwodd i rownd yr wyth olaf cystadleuaeth Cwpan Her yr Alban wedi buddugoliaeth haeddiannol yn erbyn Elgin.

Daeth y gôl gyntaf gan Greg Draper ar ôl chwarter awr.

Aeron Edwards wnaeth benio'r ail ac fe ddaeth trydydd gôl gan Jamie Mullan yn yr hanner cyntaf.

Un gôl oedd yn yr ail hanner ond honno yn ail gôl i'r chwaraewr Greg Draper.

Y sgôr terfynnol felly yn 4 - 0.