Casnewydd 2-0 Yeovil

Padraig Amond Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Padraig Amond yn dathlu wedi'r gôl

Mae Casnewydd wedi cael y dechrau gorau i'w tymor ers 1982 gyda buddugoliaeth arall ac un gyfforddus yn erbyn Yeovil.

Padraig Amond gafodd y gôl gyntaf wedi 45 munud ac fe ddaeth yr ail yn gynnar yn yr ail hanner i Joss Labadie.

Er i Yeovil ddod yn agos trwy daro'r trawst doedd dim yn tycio i'r ymwelwyr.