Cwpan y Byd 2018: Georgia 0-1 Cymru

Tom Lawrence Image copyright Reuters
Image caption Hon oedd gôl gyntaf Tom Lawrence i Gymru

Fe wnaeth ergyd wych Tom Lawrence gadw gobeithion Cymru o gyrraedd Cwpan y Byd 2018 yn fyw yn Tbilisi nos Wener.

Yn dilyn gemau eraill nos Wener mae Cymru yn parhau yn ail yng Ngrŵp D, pwynt y tu ôl i Serbia. Ond yn dilyn buddugoliaeth Gweriniaeth Iwerddon un pwynt sydd rhwng y Gwyddelod a Chymru bellach.

Bydd Cymru'n croesawu'r Gwyddelod i Gaerdydd nos Lun. Mae buddugoliaeth Awstria yn erbyn Serbia nos Wener yn golygu bod yn rhaid i Serbia drechu Georgia i sicrhau eu lle ar frig y tabl.

Fe ddechreuodd Cymru'n dda, gydag Aaron Ramsey yn cael cyfle gorau'r hanner cyntaf ar ôl ychydig funudau, ond heibio i'r postyn aeth ei ergyd.

Daeth cyfle arall i Andy King ar ôl chwarter awr, gyda'i ergyd i mewn i'r llawr angen arbediad gan y golwr Giorgi Loria.

Image copyright Getty Images
Image caption Roedd ergyd Andy King angen arbediad gan y golwr Giorgi Loria

Cafodd Cymru ddau gyfle ar ôl ei gilydd ar ôl hanner awr, ond doedd Sam Vokes na Tom Lawrence yn gallu taro'r targed.

Daeth moment gorau'r tîm cartref yn yr hanner cyntaf yn fuan wedi hynny, ond heibio i'r postyn aeth peniad Giorgi Kvilitaia hefyd.

Aeth Cymru ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner wrth i Tom Lawrence sgorio ei gôl gyntaf i Gymru wrth i'w ergyd o ymyl y cwrt cosbi hedfan heibio Loria i gefn y rhwyd.

Image copyright Getty Images
Image caption Cefnogwyr Cymru â rheswm dathlu yn Tbilisi

Roedd hi'n ail hanner tynn ar ôl hynny, ond cafodd Georgia gyfle gyda 10 munud yn weddill, gyda Wayne Hennessey yn arbed yn dda o ergyd Giorgi Merebashvili.

Ond llwyddodd i Gymru atal Georgia rhag cael unrhyw gyfleoedd da yn y munudau olaf i sicrhau triphwynt pwysig.

Roedd saith aelod o garfan Cymru o fewn cerdyn melyn o gael eu gwahardd ar y gyfer y gêm nos Lun, ond bydd Chris Coleman yn falch na gafodd yr un o'r rheiny eu cosbi yn Tbilisi.

Image copyright Getty Images

Straeon perthnasol