Seiclwr wedi marw mewn gwrthdrawiad â char yng Nghaerdydd

Ffordd Pencisely

Mae'r heddlu yn apelio am dystion ar ôl i seiclwr gael ei ladd yn dilyn gwrthdrawiad â char ar Ffordd Pencisely yng Nghaerdydd.

Dywedodd y llu bod car Ford Focus du wedi bod mewn gwrthdrawiad â dyn lleol 54 oed.

Mae'r ffordd yn parhau ar gau yn dilyn y digwyddiad.

Cafodd y seiclwr ei gymryd i Ysbyty Athrofaol Cymru lle cafwyd cadarnhad ei fod wedi marw.

Mae Heddlu De Cymru yn apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad am tua 13:45 ddydd Gwener i gysylltu â'r llu.

Pynciau Cysylltiedig