Liechtenstein dan-21 1-3 Cymru dan-21

George Thomas Image copyright Rex Features

Fe wnaeth dwy gôl gan George Thomas helpu tîm dan-21 Cymru sicrhau buddugoliaeth gyffyrddus yn Liechtenstein yn rowndiau rhagbrofol pencampwriaeth Euro 2019.

Fe wnaeth ymosodwr Caerlŷr sgorio ddwywaith cyn hanner amser yn y Sportpark Eschen-Mauren, gyda'r ail o'r rheiny yn gic o'r smotyn.

Chwaraewr canol cae Manchester City, Matthew Smith ychwanegodd y drydedd cyn i Ridvan Kardesoglu ymateb i'r tîm cartref.

Mae'r canlyniad yn gweld Cymru'n codi i'r ail safle yng Ngrŵp 8, un pwynt y tu ôl i Rwmania.

Hon oedd trydedd gêm Cymru yn y grŵp, ar ôl iddyn nhw drechu'r Swistir a cholli i Bortiwgal.

Pynciau Cysylltiedig