Cyhoeddi enw dyn fu farw mewn gwrthdrawiad yn Storey Arms

Andrew James Griffiths Image copyright Heddlu De Cymru

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn fu farw yn dilyn gwrthdrawiad tri cherbyd ar yr A470 ar 2 Hydref.

Roedd Andrew James Griffiths yn 35 oed ac o ardal Merthyr Tudful.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad yn Storey Arms ger Aberhonddu, ddigwyddodd am tua 17:30.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth neu a welodd y digwyddiad gysylltu gyda'r heddlu ar 101.