Dringwr fu farw yn Yosemite yn 'arwr am byth' i'w deulu

Yosemite Image copyright FACEBOOK/ANDREW A LUCY FOSTER

Mae teulu i ddringwr o Gaerdydd fu farw pan syrthiodd rhan o graig yng Nghaliffornia wedi dweud y bydd e'n arwr iddyn nhw am byth, wedi iddo warchod ei wraig yn ystod y digwyddiad.

Bu farw Andrew Foster, 32 oed, o Cheltenham yn wreiddiol, pan syrthiodd rhan o glogwyn El Capitan ym mharc cenedlaethol Yosemite ar 27 Medi.

Cafodd ei wraig, Lucy, 28 oed, ei hanafu'n ddifrifol yn y digwyddiad ac mae hi bellach mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.

Mewn datganiad, mynegodd teulu Mr Foster eu balchder ohono: "Fel sydd eisoes wedi ei adrodd, bu farw Andrew tra'n gwarchod Lucy, ac, o'r hyn ry ni'n ddeall, fe welodd dringwr arall e'n rhedeg yn ôl at y graig i amddiffyn Lucy.

"Roedden nhw'n caru'i gilydd yn fawr, a thra bod ein colled yn annisgrifiadwy, rydym yn falch o'n bachgen dewr wrth iddo achub Lucy; fe fydd yn arwr i ni am byth."

Image copyright LLUN TEULU

Dywedodd teulu Mrs Foster ei fod yn rhyw fath o gysur iddyn nhw mai achub bywyd Lucy oedd gweithred olaf Andrew: "Mae'r ddau deulu'n cefnogi ei gilydd ar adeg anodd iawn o golled a thristwch."

Dywedodd y teuluoedd fod Mrs Foster mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty a'u bod yn canolbwyntio nawr ar gael corff Mr Foster yn ôl adref.

Daeth Mr Foster yn fyfyriwr i brifysgol Caerdydd yn 2003 ac ymgartrefu yno ar ôl gadael y coleg.

Straeon perthnasol