Plaid Cymru'n dod â chytundeb gyda Llafur i ben

Leanne Wood a Carwyn Jones Image copyright Getty Images
Image caption Fe wnaeth Leanne Wood ddatgelu'r newyddion mewn galwad ffôn i'r Prif Weinidog, Carwyn Jones

Mae grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad wedi dod â chytundeb i gefnogi Llywodraeth Cymru ar rai materion i ben.

Mae'r trefniant wedi bodoli ers mis Mai'r llynedd, wedi i Lafur fethu â sicrhau mwyafrif yn y Cynulliad.

Mae'r BBC ar ddeall fod arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood wedi cyhoeddi'r newyddion mewn galwad ffôn i'r Prif Weinidog, Carwyn Jones.

Daw'r newyddion ddyddiau'n unig wedi i'r ddwy blaid gytuno ar gytundeb gwerth £210m i sicrhau y byddai cyllideb Llafur ar gyfer eleni a'r flwyddyn nesaf yn cael ei phasio ar lawr y Senedd.

Mae Mr Jones wedi ymateb drwy ddweud ei bod hi'n "bwysig i gadw llinellau agored ar gyfer trafodaethau", er gwaethaf penderfyniad Ms Wood.

Roedd y cytundeb yn galluogi Mr Jones i ddychwelyd fel prif weinidog wedi'r etholiad yn Mai 2016.

'Diweddglo naturiol'

Mewn llythyr i aelodau Plaid Cymru dywedodd Ms Wood fod "cytundeb y gyllideb yn ddiweddglo naturiol i'r Compact".

"Mae'r cytundeb dwy flynedd yn ein galluogi ni i wneud penderfyniadau gwahanol cyn etholiadau nesaf y Cynulliad," meddai.

"Mae'r ymrwymiadau rydym wedi sicrhau yn cynrychioli gwreiddiau ein cynllun ar gyfer llywodraethu.

"Bydd rhaid i ni weithio'n galed at y nod o lywodraethu os byddwn eisiau adeiladau ar y seiliau sydd eisoes mewn lle."

Image caption Dywedodd Carwyn Jones ei fod wedi cael "sgwrs gyfeillgar" gyda Leanne Wood

Ni fydd dod â'r cytundeb i ben yn chwalu'r llywodraeth, er bydd Llafur ddwy sedd yn fyr o fwyafrif yn y Cynulliad.

Ond mae'r gefnogaeth gan Kirsty Williams o'r Democratiaid Rhyddfrydol a'r Arglwydd Dafydd Ellis Thomas yn rhoi'r mwyafrif i'r llywodraeth.

'Sgwrs gyfeillgar'

Ychwanegodd Mr Jones: "Fe gafodd y penderfyniad ei wneud mewn galwad ffôn y bore 'ma gan Leanne Wood.

"Roedd yn sgwrs gyfeillgar ac fe wnaethom gytuno ei bod hi'n bwysig i gadw llinellau agored ar gyfer trafodaethau.

"O'n safbwynt ni roeddem yn credu fod y cytundeb yn rhoi sefydlogrwydd mewn cyfnod o ansicrwydd yn sgil toriadau gan y Ceidwadwyr a'r anrhefn yn sgil Brexit yn San Steffan.

"Rwyf wedi dweud ar sawl achlysur, mae gan fy llywodraeth ddyletswydd i weithio gydag eraill er lles pobl Cymru.

"Fe wnawn ni barhau i weithio'n galed yn yr un ffordd o fod yn agored i syniadau a thrafodaethau wrth i ni ganolbwyntio ar wneud ein gorau dros gymunedau."

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies wedi dweud fod hyn yn "enghraifft arall o anrhefn gan Blaid Cymru".

Straeon perthnasol