Owain Llyr ac Iwan Roberts yn Tbilisi
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

'Tro diwethaf yn Tbilisi roedd y canlyniad yn ofnadwy'

5 Hydref 2017 Diweddarwyd 14:07 BST

Gyda dwy gêm yn weddill yng ngrŵp D, mae Cymru wedi teithio i ddinas Tbilisi i wynebu Georgia ddydd Gwener, 6 Hydref.

Yno hefyd mae Iwan Roberts, sy'n rhannu ei atgofion o fod yng ngharfan Cymru yn 1994 pan enillodd Georgia o 5-0.

Mae Iwan yn rhannu ei brofiadau ac yn edrych ymlaen at y gêm nos Wener gyda gohebydd chwaraeon BBC Cymru, Owain Llyr.

Bydd sylwebaeth lawn o'r gêm rhwng Georgia v Cymru ddydd Gwener ar Camp Lawn, BBC Radio Cymru, gyda'r rhaglen i ddechrau am 16:30, a chyn hynny bydd llif byw arbennig yma ar BBC Cymru Fyw i ddod â'r holl gyffro i chi o 16:00 ymlaen.