Mae Glyn Furnival-Jones yn dweud ei fod o weithiau rŵan ddim yn mynd allan rhagofn na fydd o'n gallu cael tacsi
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Defnyddio tacsis yn 'ormod o drafferth'

5 Hydref 2017 Diweddarwyd 06:58 BST

Mae mudiad Anabledd Cymru yn dweud bod rhai gyrwyr tacsis a cherbydau llogi preifat yn gwrthod codi teithwyr sydd yn defnyddio cadeiriau olwyn neu gŵn tywys.

Mae'n brofiad sy'n gyfarwydd i Glyn Furnival-Jones o Gaerdydd sydd yn byw gyda sglerosis ymledol.

Mae'n dweud bod mynd allan weithiau yn "ormod o drafferth".